Alun Ffred Jones
Mae Llywdoraeth Cymru wedi cael eu beirniadu’n chwyrn heddiw ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oes unrhyw ohebiaeth ynglŷn â’r economi wedi bod rhwng Caerdydd a San Steffan yn ystod yr wyth mis diwethaf.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Carwyn Jones a’i Lywodraeth am eu diffyg gweithredu yn ystod y misoedd ers iddyn nhw ddod i rym, a’u cyhuddo o “ddifrawder deddfwriaethol a diffyg uchelgais llwyr.”
Mewn ymosodiad di-flewyn ar dafod ar y Llywodraeth heddiw, mae Plaid Cymru wedi llunio rhestr o rai o ddiffygion mwyaf y Llywodraeth, gan gynnwys “methu â blaenoriaethu’r frwydr dros swyddi Cymreig; gwrthod pecyn o fesurau i adfer economi Cymru,” a’u diffyg “targedau” a’u diffyg “atebolrwydd.”
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, mae’r Blaid Lafur wedi bod yn “llaesu dwylo” dros yr wyth mis ers eu hethol, a bod “cyfleoedd wedi eu colli” oherwydd y diffyg gweithredu.
Un o ddarganfyddiadau ymchwil Plaid Cymru, trwy gais Rhyddid Gwybodaeth, yw nad yw Prif Weinidog Cymru wedi gyrru unrhyw ohebiaeth at David Cameron am gyflwr economiau Cymru a Phrydain yn ystod yr wyth mis diwethaf.
“Er iddo gael digon o amser i ysgrifennu llythyr brys at Brif Weinidog y DU ynghylch system etholiadol Cymru a swyddi ei gydweithwyr yn y blaid, ni anfonodd Carwyn Jones air o gwbl at David Cameron am gyflwr economiau Prydain na Chymru,” meddai Alun Ffred Jones.
“Dal i ddisgwyl y mae economi Cymru am ddyddiadau cychwyn prosiectau adeiladu hanfodol yng Nghymru, a thra bod llywodraethau’r Alban a’r DU wedi cyflwyno chwe mesur yr un, un yn unig y llwyddodd y llywodraeth Lafur llipa i’w chyflwyno,” meddai.
‘Nonsens llwyr’
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r honiadau gan ddweud eu bod yn “nonsens llwyr,” gan gyhuddo Plaid Cymru o “feirniadaeth anwybodus ac undonog o’r ymylon.”
Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae Carwyn Jones “wedi gwneud ei safbwynt ar bolisi economaidd Llywodraeth y DU yn glir iawn i’r Prif Weinidog, mewn gohebiaeth ysgrifenedig a wyneb yn wyneb mewn cyfarfodydd.
“Yn yr wythnosau diwethaf yn unig, mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar sawl achlysur er mwyn codi pryderon dros bolisi Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad mewnol, effaith newid polisi Llywodraeth y DU ar Ewrop ar fuddiannau Cymru, ac effaith y cynnydd mewn prisau ynni ar allu economi Cymru i gystadlu, a phryder dros adolygiad Dyletswyddau Adnewyddol ar ddatblygiad y sector ynni yng Nghymru.”
Yn ôl y llefarydd, mae eu cyhoeddiad y bore ’ma fod prosiect gwerth £30 miliwn i helpu i greu 3,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf yn brawf o’u “gweithredu effeithlon” ar yr economi.
“Mae hyn yn ychwanegol at greu 4,000 o swyddi newydd bob blwyddyn am dair blynedd ar gyfer ceiswyr swyddi ar draws Cymru,” meddai’r llefarydd.