Leanne Wood
Mae un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi denu cefnogaeth dau Aelod Cynulliad arall.

Heddiw cyhoeddodd Bethan Jenkins a Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru a Dwyrain De Cymru, eu bod nhw’n cefnogi ymgyrch Leanne Wood i gael ei hethol yn arweinydd y blaid.

Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch Leanne Wood i fod yn arweinydd.

Bydd y cyfnod swyddogol i enwebu arweinydd newydd i Blaid Cymru yn dechrau yfory, ac yn cau ar 26 Ionawr. Bydd yr hystings cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Chwefror.

Mae disgwyl y bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012.

Dywedodd Leanne Wood fod “cael cefnogaeth dau aelod mor weithgar ac amlwg o Blaid Cymru i fy ymgais i fod yn arweinydd yn ein calonogi yn fawr”.

Bydd ymgyrch Leanne Wood yn lansio’n swyddogol yng Nghlwb Cymdeithasol y Pick and Shovel ar Stryd y Gwynt, Rhydaman, nos Iau am 7pm.

“Mae Leanne yn ysbrydoliaeth, a gall apelio at bobl gyffredin ar y stryd,” medai Bethan Jenkins.

“Ymunais i gyda Phlaid Cymru yn wreiddiol ar ôl cael fy ysbrydoli gan Leanne a’i hymrwymiad i’r blaid. Os ydych am weld cyfeiriad newydd gwahanol i Gymru, yn ailddatgan ymrwymiad Plaid Cymru i annibyniaeth ar yr un pryd â datblygu economi gref a chynaliadwy yn cael ei rheoli gan bobl Cymru, pleidleisiwch dros Leanne fel arweinydd Plaid Cymru.

“Mae Cymru wedi dioddef bron i 100 mlynedd o ddirywiad diwydiannol, a thrwy hynny, dirywiad economaidd. Mae hyn yn brawf damniol o fethiant pleidiau San Steffan i ddiogelu ein cenedl.

“Mae hefyd yn dangos cymaint yw’r brys am atebion i’r heriau sydd o’n blaenau ni. Mae ei phapur polisi Cynllun Gwyrdd yn cynnig atebion ymarferol angenrheidiol o’r fath.”

Dywedodd Lindsay Whittle, a gafodd ei ethol yn yr etholiad ym mis Mai, fod angen i Blaid Cymru fod yn wrthblaid “nid yn unig i Lafur yng Nghymru ond hefyd i’r Con Dems yn Llundain”.

“Mae gan Leanne record hir o graffu ar wleidyddion a’u poeni er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl gyffredin yn cael eu clywed yng nghoridorau grym,” meddai.

“Does dim un Gweinidog yn saff rhag ei chwestiynau treiddgar, all dim un lefel o lywodraeth guddio rhag ei dyfalbarhad. Hi yw’r terier Cymreig y mae gwleidyddiaeth Cymru wedi bod yn disgwyl amdano.

O dan ei harweiniad hi, rwy’n credu y gall Plaid Cymru ddod yn beiriant brwydro effeithiol, i’n paratoi ar gyfer llywodraethu’n effeithiol. Mae angen rhywun sy’n un o’r bobl i’n harwain ni. Leanne yw honno.”