Rhodri Glyn Thomas
Mae Plaid Cymru wedi bod yn mynd am yn ôl ers sefydlu’r Cynulliad, yn ôl yr un o Aelodau Cynulliad y blaid, Rhodri Glyn Thomas.

Dywedodd AC etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei fod yn gobeithio y bydd yr etholiad i ddewis aweinydd newydd yn hwb i obeithion y blaid.

Dywedodd y cyn-Weinidog Treftadaeth mai’r her i’r blaid oedd “creu delwedd sy’n taro tant â’r pleidleiswyr”.

“Rydyn ni wedi methu a gwneud hynny dros yr 11 mlynedd ddiwethaf,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Mae pobol i weld yn ymateb yn gadarnhaol i Lafur yng Nghymru, er nad ydw i’n gallu gweld unrhyw wahaniaeth rhyngddyn nhw a Llafur yng ngweddill Prydain.

“Ers sefydlu y Cynulliad mae Ceidwadwyr Cymru hefyd wedi ail-frandio.

“Rydyn ni, ar y llaw arall, yn union lle’r oedden ni yn 1999. A dweud y gwir, o ran cefnogaeth, rydyn ni wedi mynd am yn ôl.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ennill lle mewn llywodraeth yn hytrach na datblygu ein cefnogaeth ar draws y wlad.

“Roedd bod mewn llywodraeth a profi ein bod ni’n fedrus yn lwyddiant i ni, ond mae angen i ni sicrhau fod pobol yn gallu uniaethu gyda ni hefyd.”