Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi a fyddwn nhw’n gwneud i ffwrdd â chynllun Llywodraeth Cymru’n Un i geisio cael gwared ar TB mewn gwartheg.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Huws Gruffydd, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Lafur Cymru yn cyhuddo gweinidogion o ymestyn effeithiau niweidiol y diciâu.
Roedd y llywodraeth flaenorol, oedd yn cynnwys gweinidogion o Blaid Cymru, wedi cyhoeddi cynllun i geisio atal lledu’r diciâu drwy ddifa moch daear.
Ym mis Mehefin eleni, fe gyhoeddodd John Griffiths fod cynlluniau i ddifa moch daear, a gytunwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn mynd i gael eu gohirio nes bod adolygiad yn cael ei gynnal i sylfaen gwyddonol y penderfyniad i ddifa.
Fe gyhoeddwyd casgliadau’r adolygiad hwnnw ddechrau’r mis – ond mae’r Gweinidog bellach wedi dweud na fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ddifa nes y flwyddyn newydd.
Galwodd Llyr Huws Gruffydd weithredoedd y gweinidog yn “annerbyniol” a galwodd ar y llywodraeth i gyhoeddi beth y bwriadant wneud am broblem y diciâu mewn gwartheg.
Dywedodd Llyr Huws Gruffydd y dylai Gweinidog Amaethyddol Llafur, John Griffiths, gyhoeddi ei benderfyniad yn fuan.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyhoeddi eu bwriad i gynnal cynlluniau peilot i ddifa moch daear.
Y llythyr
“Rwy’n deall eich bod bellach wedi derbyn sylwadau gan y diwydiant amaethyddol ynghylch oblygiadau eich penderfyniad i oedi ymhellach y cyhoeddiad am fwrw ymlaen gyda chynlluniau’r gweinidog blaenorol i ddileu’r diciâu,” meddai Llyr Huws Gruffydd yn ei lythyr.
“Carwn adleisio’r dystiolaeth a gafwyd gan y ffermwyr fod yr ansicrwydd a grëwyd gennych yn gosod pwysau ychwanegol annerbyniol ar y rhai sy’n gweithio mewn ardaloedd lle mae’r diciâu mewn gwartheg yn taro galetaf.
“Ar ben y problemau difrifol a achosir gan y diciâu yn yr ardaloedd hynny, mae eich penderfyniad i atal y cynlluniau difa fel yr oeddent er mwyn cynnal adolygiad, a’ch penderfyniad yn awr i oedi cyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad hwnnw, yn peryglu cynaladwyedd llawer o fusnesau fferm.
“Mae eich gweithredoedd yn rhwystr pellach i bobl sydd wedi dangos ewyllys da a pharodrwydd i weithio gyda’r llywodraeth yn hyn o beth. Mae’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn haeddu camau clir a chryf gan Lywodraeth Cymru I ddileu’r diciâu ac, fel y gwyddoch, rwy’n eich annog yn gryf i adfer y cynlluniau a sefydlwyd gan eich rhagflaenydd.
“Ar ran y ffermwyr yn yr ardaloedd hynny sy’n ymdrin ag effeithiau’r diciâu yn ddyddiol, yn ogystal â ffermwyr yng ngweddill Cymru sydd yn pryderu’n enbyd am ledaeniad y clefyd, ni allaf ond crefu arnoch i fod mor anrhydeddus a gwneud cyhoeddiad cyhoeddus cyn gynted ag y bo modd.
“Mae angen i ffermwyr wybod beth yw bwriadau eich llywodraeth ynghylch y diciâu cyn gynted ag sydd modd, a dylid caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol cael cyfle buan i drafod eich penderfyniad.
“Mae pobl yn haeddu gwybod beth y bwriadwch wneud i’w helpu, os o gwbl.”