David Cameron - cael ei weld yn siardwr plaen
Er gwaetha’r argyfwng economaidd, mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn fwy poblogaidd nag arweinwyr y ddwy brif blaid arall.

Ond mae Llafur wedi closio at y Ceidwadwyr ym mrwydr y pleidiau, ar ôl syrthio ar ei hôl hi yn sgil fito David Cameron yn Ewrop.

Mae pôl piniwn newydd gan gwmni ICM i bapur y Guardian yn dangos fod gan y Prif Weinidog sgôr bodlonrwydd o 5 – mae 48% yn credu ei fod yn gwneud gwaith da o gymharu â 43% sy’n dweud fel arall.

Mae sgôr yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn minws 17 ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn minws 19.

Erbyn hyn, 37-36 yw hi rhwng y Ceidwadwyr a Llafur gyda’r Democratiaid ar 15.

Mae’r pôl yn awgrymu bod David Cameron yn cael ei weld yn un sy’n fodlon dweud ei feddwl yn blaen.