Y Saith Seren
Fe fydd canolfan gymdeithasol Gymraeg newydd yn cael ei lansio yn Wrecsam ymhen union fis.

Fe gyhoeddodd y tîm y tu cefn i ganolfan y Saith Seren y bydd noson lansio ar ddydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25.

Fe gyhoeddwyd y syniad am y ganolfan yn hen dafarn y Saith Seren adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal eleni.

Mae rheolwraig eisoes wedi ei phenodi – Amanda Hughes o Frymbo – ac yn ôl y trefnwyr mae mwy na 80 o unigolion wedi buddsoddi.

Mae’r rheiny’n cynnwys sylfaenydd canolfan Tŷ Tawe yn Abertawe a thafarn gydweithredol arall, y Pengwern yn Llan Ffestiniog.

Maen nhw hefyd yn apelio am wirfoddolwyr i gyfrannu at y gwaith ac mae partneriaeth eisoes wedi ei chreu gyda chyflenwyr bwyd lleol.