Mae’n bryd unwaith eto i wahanu’r gwael a’r gwych a phenderfynu ar flogiau gorau’r flwyddyn. Daw’r rhestr flynyddol ychydig yn hwyrach eleni – wedi’r cwbl, dyw hi ddim yn gwneud ryw lawer o synnwyr dewis blogiau gorau’r flwyddyn cyn i’r flwyddyn ddod i ben. Er diddordeb, dyma restrau deg uchaf blogiau 2010 a 2009, a gyhoeddwyd ym misoedd Tachwedd y blynyddoedd rheini.

Un peth sydd wedi fy nharo i wrth gael pip drwy’r blogiau eleni yw bod mwy o barodrwydd i ddefnyddio cyfryngau tu hwnt i’r cofnod ysgrifenedig traddodiadol. Mae sawl un yn arbrofi â chofnodion fideo, podlediadau, delweddau a mapiau o bob math. Efallai bod defnydd cynyddol Twitter a Facebook wedi gwneud y defnyddiwr cyffredin yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r cyfryngau eraill yma. Efallai bod y cofnod ysgrifenedig traddodiadol wedi mynd braidd yn hen-ffasiwn.

Mae ambell un o flogiau gorau’r llynedd wedi ein gadael ni, neu o leiaf wedi cau i lawr dros dro, gan gynnwys Blog Guto Dafydd oedd yn drydydd yn 2010. Y gobaith yw y bydd y ‘nêm and shem’ yma yn ryw fath o gic i fyny’r pen-ôl. Rydw i hefyd wedi fy ngwahardd rhag cynnwys Morfablog ar y rhestr.

Dyw fy mlog i fawr gwell ond rydw i wedi bod yn ceisio gwneud rhywfaint mwy o ymdrech i flogio dros y misoedd diwethaf. Gellir darllen fy mlog personol i fan hyn. [/plyg]

Yn olaf, mae yna restr llawn o flogiau Cymraeg ‘byw’ yma, ac mae’n bosib fy mod i wedi methu rhai perlau yn gyfan gwbwl. Croeso i chi adael sylw isod er mwyn fy hysbysu i ac eraill amdanyn nhw.

Rhif 10: Fideo Bob Dydd

Y syniad ydi eu bod nhw’n cyhoeddi un fideo gwerth chweil yn Gymraeg bob dydd, o ‘gaeau breision y Tiwbs’. Serch hynny mae’r blog yma yn colli rhai pwyntiau am nad oes yna cweit Fideo Bob Dydd erbyn hyn. Fideo Bob yn Ail Ddydd, neu hyd yn oed Ambell Fideo Bob Wythnos, efallai. ‘Hyd yn oed ar ddiwrnod Dolig’ meddai’r disgrifiad – cawn weld! Ond mae sawl perl i’w fwynhau wrth sglefrio drwy’r cofnodion fan hyn, yn enwedig sgetshys Dim Byd.

Rhif 9: Pugnacious Little Trolls

Blog arall sydd wedi troi cefn ar gofnodion ysgrifenedig, gan ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyfrwng y fideo ar-lein. Yn anffodus, yn achos y blog yma, dydw i ddim yn siŵr a ydi hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir ai peidio. Cryfder pennaf blog Chris Cope y llynedd oedd ei fod yn ysgrifennwr andros o dda, hyd yn oed pan oedd y cynnwys braidd yn hunandosturiol. Mae cyfrwng yr araith ‘yn syth at y camera’ yn tueddu i fod braidd yn grwydrol ac araf o’i gymharu â’i ryddiaith fywiog. Mae ei flog Saesneg, ysgrifenedig, yn llawer gwell (pan nad yw’n trafod Strictly Come Dancing, ond chwaeth bersonol yw hynny amwn i) – wele’r cofnod yma er engraifft .

Rhif 8: Hacio’r Iaith

Mewn sawl ffordd mae’r blog yma wedi llenwi’r bwlch sydd wedi ei adael gan Metastwnsh. Mae’n bodoli bron iawn fel ryw fath o wasanaeth newyddion i’r rheini sydd â diddordeb mewn technoleg cyfathrebu a’r iaith Gymraeg. Fel Metastwnsh, mae’r ffaith fod sawl cyfrannwr yn sicrhau ei fod yn ddigon bywiog a bod yna drafodaeth helaeth ar sawl pwnc. Anaml iawn mae’r blogiad gwreiddiol yn dadansoddi’r newyddion yn drylwyr ond fel arfer ceir trafodaeth ddiddorol ‘o dan y llinell’.

Rhif 7: Y Twll

Y llynedd fe ddywedais i fod “y Twll i gelfyddydau beth oedd yr hen Metastwnsh i dechnoleg”. Does gen i ddim ryw lawer i’w ychwanegu at hynny. Pigion newyddion a fideos cerddorol a geir fan hyn yn bennaf ond mae’n denu cynulleidfa a nifer o sylwadau ar bob cofnod. Mae yna ambell i adolygiad a chofnod hirach gan gyfranwyr gwadd sy’n ychwanegu rhywfaint o amrywiaeth ac yn sicrhau fod y blog yn cael ei ddiweddaru’n aml.

Rhif 6: Quixotic Quisling

Efallai fod cynnwys blog ddwyieithog yn gosod cynsail peryglus ond mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi bod yn Gymraeg yn ddiweddar (heblaw am y cofnod diweddaraf, yr eithriad sy’n profi’r rheol efallai). Dyma flog personol Carl Morris, sydd hefyd yn rhannol os nad yn bennaf gyfrifol am Y Twll a Hacio’r Iaith, a’r un pynciau sydd dan sylw fan hyn, sef technoleg a cherddoriaeth. Mae ganddo farn ddiddorol ar fater e-lyfrau a sawl pwnc arall a fydd yn siwr o effeithio ar berthynas y iaith a thechnolegau cyfathrebu dros y blynyddoedd nesaf.

Rhif 5: Hen Rech Flin

Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i’r Hen Rech Flin, a gafodd ei hun yn arweinydd swyddogol yr ymgyrch ‘Na’ yn ystod y refferendwm ym mis Mawrth. Mae’n debyg nad oedd unrhyw un arall eisiau’r swydd, ac fe bleidleisiodd yr Hen Rech o blaid yn y pendraw wedi’r cwbl. Efallai mai dyma un o’r esiamplau prin o flogiwr Cymraeg yn denu sylw’r cyfryngau prif-lif. Er gwaetha’r cynnwrf hwnnw, mae’r blog ei hun yn union fel y bu erioed. Fel pob blog gwleidyddol arall roedd dechrau’r flwyddyn yn dipyn o oes aur ond mae wedi tawelu rywfaint nawr fod hwyl yr etholiadau a’r refferenda ar ben. Y feirniadaeth oesol yw ei fod yn blogio’n amlach ac mewn mwy o ddyfnder ar ei flog Saesneg, Miserable Old Fart.

Rhif 4: Paned a Chacen

Dyma flog lliwgar – ac amserol o ystyried ei bod hi bron yn Nadolig – sy’n gwneud defnydd da o luniau, yn ogystal ag ysgrifen, er mwyn llonni’r llygad. Mae’n chwa o awyr iach gweld rhywun yn cynnal blog Cymraeg sydd ddim yn wleidyddol, technolegol neu gerddorol ei naws. Yr unig anfantais ydi bod y cacennau yn edrych ychydig yn rhy flasus, ac mae pori drwy’r blog yn gallu bod braidd yn arteithiol weithiau am nad oes modd blasu’r cynnyrch cartref. “Does ’na ddim byd gwell na phaned a chacen – ffaith!” medd yr awdur, a does yna ddim llawer o flogiau yn y rhithfro sy’n well na hwn, chwaith.

Rhif 3: Blog Rhys Llwyd

Ar ôl cyfnod digon tawel y llynedd mae Blog Rhys Llwyd wedi bod dipyn yn fwy bywiog dros y misoedd diwethaf. Un o gryfderau’r blog yw bod yr awdur yn dipyn o arbenigwr ar sawl cyfrwng gwahanol – yn ogystal ag ysgrifau ar bynciau amrywiol, o’r dydd i ddydd i’r academaidd a’r diwinyddol, ceir fideos, ffotograffau, a gwaith dylunio. Dros yr ychydig wythnosau ddiweddaf yn unig mae wedi a) Cyhoeddi ei PhD cyfan dan drwydded Creative Commons, a b) cyhoeddi’r fideo gwych yma am frwydr ffermwr yn erbyn adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B. Os yw’n parhau i gynnal y safon gallai gyrraedd y brig y flwyddyn nesaf.

Rhif 2: Anffyddiaeth

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o flogiau, sy’n myfyrio’r ysbeidiol ar sawl pwnc, mae’r blog yma’n trafod un mater yn benodol, sef bodolaeth Duw, neu yn hytrach diffyg bodolaeth Duw. Er nad yw’r pwnc at ddant pawb mae Dylan yn ysgrifennu mewn modd deniadol a deallus, gan ymosod ar ei dargedau ag awch. Mae’r blog hefyd yn esgor ar drafodaeth ddiddorol â Christnogion sydd, er nad ydyn nhw’n cydweld ag ef, yn amlwg yn parchu ei ymdrechion i ymdrin â’r pwnc mewn modd trwyadl a rhesymegol. Mae’n haeddu cynulleidfa y tu hwnt i anffyddwyr eraill.

Rhif 1: Blogmenai

Efallai ei bod hi’n anochel fod y blog arbennig hwn wedi cyrraedd y brig am yr ail flwyddyn yn olynol. Mewn blwyddyn oedd yn cynnwys dau refferendwm ac etholiad roedd ddigon o gig gwleidyddol yn 2011 i’r awdur gnoi arno. Er bod pethau, yn anochel braidd, wedi tawelu rhywfaint erbyn diwedd y flwyddyn mae’r awdur wedi parhau i gynnig sylwebaeth ddadlennol, chraff  a doniol ar bynciau gwleidyddol pwysicaf y dydd. Mae’r blog yn amlwg yn hynod boblogaidd, hefyd.

Os nad oes yna flogiwr arall yn codi ei gêm yn sylweddol mae’n anodd gweld beth allai atal Blogmenai rhag cyrraedd y brig eto’r flwyddyn nesaf. Fe allai’r blog gau i lawr wrth gwrs… ac fe fyddai’r rhithfro yn siŵr o ymateb i’r newyddion yn yr un modd a’r darllenydd yma adeg marw Kim Jong-Il…