Mike Dye
Mae dyn gyfaddefodd i ddynladdiad un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymtu wedi ei garcharu am dair mlynedd.
Cafodd Ian Mytton, 41, ei ddedfrydu heddiw. Roedd wedi ymosod ar Michael Dye y tu allan i Stadiwm Wembley toc cyn dechrau gêm Cymru yn erbyn Lloegr ar 6 Medi.
Dioddefodd Michael Dye, oedd yn gefnogwr brwd i glwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd, anaf difrifol i’w ben. Cafodd ei gludo i ysbyty Northwick Park yn Llundain tua 7.20pm ond bu farw’n ddiweddarach.
Roedd Ian Mytton, 41, o Redditch yn Swydd Gaerwrangon wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad yn yr Old Bailey fis diwethaf.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag mynychu unrhyw gêm bêl-droed am chwe mlynedd. Fe fydd yn treulio o leiaf 18 mis yn y carchar.
Roedd Michael Dye, yn dad i dri o blant ac yn gweithio i gyngor Caerdydd.