Mae’n anodd credu ei bod hi eisoes yn flwyddyn ers dewis y 10 blog gorau yn y Gymraeg ar gyfer 2009.

Mae tirwedd y rhithfro wedi newid ers hynny. Sawl blog wedi ymddangos, sawl blog wedi cau, ambell un wedi cau cyn sleifio’n ôl gyda’u cynffonau rhwng eu coesau (dw i’n edrych arnoch chi Hogyn o Rachub a Chris Cope).

Mewn rhai ffyrdd mae safon y rhithfro ychydig yn wannach eleni nag oedd hi’r llynedd. Dim ond cysgod o flog Rhif #1 y llynedd, Metastwnsh, sydd yn weddill.  Dyw Dogfael heb ddweud unrhyw beth ers misoedd. Ac mae ambell i flog arall oedd ar frig y rhestr y llynedd wedi tawelu’n sylweddol.

Ond mewn rhai ffyrdd eraill mae’r rhithfro yn lle llawer mwy amrywiol, ac mae’r dadansoddiad gwleidyddol, yn enwedig, wedi gwella’n sylweddol.

Efallai bod Facebook a Twitter yn ennill tir ac yn gwthio’r hen fforymau trafod a blogiau o’r neilltu fel prif gyfrwng sylwebaeth ar y we. Ond un peth nad ydi Facebook a Twitter yn ei wneud cystal yw rhoi’r cyfle am ddadl dda – ac mae blogiau yn arbenigo ar hynny.

Beth bynnag, dyma’r 10 blog gorau yn y Gymraeg sy’n cael eu hysgrifennu yn ddi-dâl…

Rhif 10: Pethau Bychain

Yn dechnegol dim ond un diwrnod allan o’r 365 oedd y blog yma o ryw lawer o ddefnydd, sef 3 Medi. Ond yn yr un diwrnod hwnnw fe achosodd mwy o gyffro nag y mae’r rhan fwyaf o flogiau yn ei greu mewn blwyddyn.

Nod y blog oedd annog pobol i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.

Fe wnaeth trigolion y rhithfro ymrwymo i wneud hynny, yn eu cannoedd, a’r canlyniad oedd un o’r dyddiau prysuraf yn hanes y we Gymraeg erioed, mae’n siŵr.

Er bod ambell i hen Scrooge wedi pigo beiau, does dim gwadu bod y diwrnod hwnnw’n llwyddiant, (er nad oedd yna effaith amlwg ar iechyd y rhithfro y diwrnod wedyn – Mr Scrooge).

Rhif 9: Fideo Bob Dydd

Blog sy’n gwneud beth mae o’n ei wneud ar y tin. A blog sy’n diweddaru’n gyson iawn hefyd, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu. Byddai creu blog llawn deunydd fideo Cymraeg yn gostus ac yn llyncu amser  – syniad y blog yma yw cymryd yr holl ddeunydd fideo Cymraeg sydd allan yno a’i archifio yn yr un lle. “Hidlo’r aur o’r cachu,” ys dywed y blog ei hun. Syniad syml ond effeithiol.

Rhif 8: Morfablog

Mae hi bron yn ddegawd ers i’r blog yma, tad y blogiau Cymraeg, gan godfather y we Gymraeg, ddechrau. Mae hi wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all yr awdur Nic Dafis gadw pethau y mae o’n taro ar eu traws wrth bori’r we. Efallai fy mod i’n dewis ar reputation yn hytrach na form fan hyn, ys dywed y pyndits rygbi, ond byddai’n rhaid cau’r blog yma i lawr cyn ei bod hi’n gadael fy 10 uchaf i.

Rhif 7: Blog Rhys Llwyd

Roedd y blog yma’n ail o’r brig y llynedd ond mae o wedi tawelu rhywfaint ers hynny, gyda chofnodion mwy ysbeidiol a phytiog.  Dyw’r cynnwys ddim at dast pawb ond mae’n cynnig dadansoddiad deallus a thrylwyr o rai o faterion y dydd, pan gaiff yr awdur amser i wneud hynny.

Rhif 6: Blog yr Hogyn o Rachub

Dyfalbarhad yw un o brif rinweddau’r blog yma – mae o wedi bod wrthi ers 2003. Felly mae o’n colli pwyntiau am roi’r ffidil yn y to am gyfnod yn gynharach eleni cyn ail ddechrau ar y gwaith o gofnodi hynt a helynt ei fywyd yn fuan wedyn. Dyddiadur ydi’r blog yma i bob pwrpas, ac mae rhywun yn cael yr argraff bod ysgrifennu ei lith ddyddiol yn gymaint o ran o ddiwrnod yr awdur a mynd i’r tŷ bach. Er hynny mae yna ambell i gofnod craff ynglŷn â stad y byd fel y mae hi heddiw.

Rhif 5: Pugnacious Little Trolls

Blog arall sy’n colli pwyntiau am gau i lawr mewn huff, cyn ailymddangos ychydig yn ddiweddarach ar ôl newid ei feddwl. Fel ei lyfr Cwrw Am Ddim, mae blog Chris Cope yn boenus o agored ynglŷn a’i fywyd, i’r pwynt lle mae o bron a bod yn codi cywilydd ar y darllenwr. Ond er gwaetha’r hunan dosturi (sy’n llethod ar brydiau) does dim gwadu ei fod o’n gallu sgwennu’n abennig o dda, er ei fod o’n dal i ystyried ei hyn yn ddysgwr am ryw reswm.

Rhif 4: Y Twll

Mae y Twll i gelfyddydau beth oedd yr hen Metastwnsh i dechnoleg. Mae’n flog gan Carl Morris, sydd hefyd yn cynnal blog dwyieithog hynod ddiddorol Quixotic Quisling, ac ambell i gyfranwr gwadd. Fel Morfablog a Fideo Bob Dydd mae o’n aml yn gyfrwng er mwyn cofnodi pigion sydd wedi dal llygad yr awdur, heb ryw lawer o gyfraniad gan ef ei hun. Ond mae yna ambell gyfweliad, adolygiad a a thrafodaeth sy’n ei godi uwchlaw yr rheini.

Rhif 3: Blog Guto Dafydd

Nodwyd y blog yma ar y rhestr y llynedd fel un i’w gwylio yn y dyfodol, ac ers hynny mae o wedi blodeuo i mewn i un o’r blogiau gorau yn y rhithfro. Mae rhai o’r blogiau ychydig yn rhy gryno ac mae rhywun yn cael yr argraff bod lot o ddarpar-gynnwys y blog yn cael ei wasgaru rhwng y cŵn a’r brain ar Twitter. Serch hynny dyma’r blog orau i ddod i’r golwg ar y rhithfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhif 2: Yr Hen Rech Flin

Fel y nodwyd y llynedd, un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg sy’n cael ei ddiweddaru’n fwy cyson o lawer. Serch hynny mae cynnwys ei hen flog blin Cymraeg yn weddol unigryw. Mae ganddo’r gallu i wneud pwynt gwleidyddol craff yn gryno, ac mae’r bartneriaeth gecrus rhyngddo ef a Blogmenai (isod) yn un diddorol.

Rhif 1: Blogmenai

Dyw hi ddim yn syndod efallai mai tri blog gwleidyddol sydd ar frig y rhestr eleni, mewn blwyddyn oedd yn cynnwys un etholiad ac ar drothwy dau refferendwm ac un etholiad arall. Mae hi hefyd yn flwyddyn, diolch i’r toriadau gwario, lle y mae penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio er fywydau dydd i ddydd pobol fel erioed o’r blaen. Ond hyd yn oed heb y cyd-destun hwnnw mae’n debyg mai Blogmenai fyddai’n dod i’r brig eleni. Dyma’r dadansoddiad gwleidyddol gorau o wleidyddiaeth Cymru ar y we, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r ysgrifennu o safon broffesiynol, ond un o brif rinweddau’r blog yw nad oes gan yr awdur rôl ar reng flaen gwleidyddiaeth nac fel newyddiadurwr ac felly mae o’n rhydd i ddweud unrhyw beth mae o ei eisiau, gan dynnu blewyn o drwyn pawb o’r Archdderwydd i Aelodau Cynulliad ei blaid ei hun.

Roedd yn rhif 1 yng Nghymru yng ngwobrau blogiau Total Politics, tipyn o gamp i flog nad ydi 80% o’r boblogaeth yn gallu ei darllen. Mae’n haeddu pob clod ac fe fyddai’r rhithfro yn lle llawer salach hebddo.