Mae’r diffyg ymateb i lythyr arweinwyr prif bleidiau yn galw am adolygiad i S4C yn newyddion da, yn ôl swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones.
Dechrau’r mis arwyddodd arweinwyr pob un o brif bleidiau Cymru lythyr ar y cyd at y Prif Weinidog, David Cameron, yn galw am adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o S4C.
Roedd y llythyr gan arweinwyr Llafur Cymru, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn dweud y dylai S4C barhau’n ddarlledydd annibynnol ond fod angen cael gwared ar yr Awdurdod a chael trefn newydd i reoli’r sianel.
Cadarnhaodd swyddfa Ieuan Wyn Jones heddiw nad ydyn nhw wedi derbyn ateb cynhwysfawr eto gan Lywodraeth San Steffan.
Roedden nhw wedi derbyn “cydnabyddiaeth bod y llythyr wedi ei dderbyn”, ond does dim ymateb ffurfiol wedi bod i’w gynnwys, medden nhw.
Ond roedd hynny’n arwydd da, awgrymodd y llefarydd, gan ddweud bod hynny’n dangos eu bod nhw’n ystyried cynnwys y llythyr yn ddwys.
“Pe baen nhw am wrthod yr awgrym yn gyfan gwbl, efallai y bydden nhw wedi gwneud hynny’n syth,” meddai’r llefarydd.
“Yr hyn ydyn ni moyn ei wybod yw eu bod nhw’n cymryd y mater o ddifrif ac yn sylweddoli bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad.”