Mae pennaeth Banc Lloegr, Mervyn King, wedi rhybuddio heddiw bod disgwyl i chwyddiant gynyddu am “tua blwyddyn” arall ar ôl cynnydd mawr mewn costau byw fis diwethaf.

Mewn llythyr at y Canghellor George Osborne, dywedodd Mervyn King y gallai chwyddiant gynyddu eto, ar ôl taro 3.2% ym mis Hydref.

Ond dywedodd mai ffactorau dros dro oedd wedi gwthio chwyddiant i fyny a bod Banc Lloegr yn rhagweld y byddai’n syrthio yn ôl i 2% erbyn 2012.

“Mae disgwyl i chwyddiant gynyddu uwchben ein targed, ac ar lefel uwch nag oedden ni’n ei ddisgwyl tri mis yn ôl, am gyfnod o tua blwyddyn neu fwy,” meddai Mervyn King yn y llythyr.

“Dros y misoedd nesaf mae’n bosib y bydd chwyddiant yn cynyddu eto.”

Mae yna bryder y bydd cynyddu’r TAW i 20% ym mis Ionawr, yn ogystal â chynnydd mewn costau tanwydd, biliau egni a’r bunt wan yn arwain at gynnydd mawr arall mewn chwyddiant.

Yn ôl rhagolygon Banc Lloegr fe fydd chwyddiant yn cyrraedd 3.5% ym misoedd cyntaf 2011.

Mae’n rhaid i Mervyn King yrru llythyr agored at y Canghellor os ydi chwyddiant yn cynyddu 1% yn uwch na tharged 2% Banc Lloegr.

Erbyn hyn mae o wedi ysgrifennu pedwar llythyr yn olynol at y Canghellor, bob tri mis, ers i chwyddiant gynyddu tu hwnt i darged Banc Lloegr ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol cynnydd ym mhris tanwydd oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd diweddara mewn chwyddiant.