Mae’r Tywysog William wedi cyhoeddi y bydd o’n priodi Kate Middleton y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Clarence House y bydd y ddau yn byw yng Ngogledd Cymru yn dilyn eu priodas. Mae’r Tywysog William yn gweithio i’r Awyrlu Brenhinol yn y Fali, Ynys Môn, ar hyn o bryd.

“Mae Tywysog Cymru wrth ei fodd yn cyhoeddi y bydd y Tywysog William a Miss Catherine Middleton yn priodi,” meddai llefarydd.

“Fe fydd y briodas yn cael ei chynnal yng Ngwanwyn neu Haf 2011, yn Llundain. Bydd manylion pellach ynglŷn â diwrnod y briodas yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

“Yn dilyn y briodas, fe fydd y pâr priod yn byw yng Ngogledd Cymru, lle y bydd y Tywysog William yn parhau i wasanaethu gyda’r Awyrlu Brenhinol.”

Dywedodd Clarence House bod y ddau wedi dyweddïo ym mis Hydref ar wyliau preifat yn Kenya.

“Mae’r Tywysog William wedi rhoi gwybod i’r Frenhines ac aelodau eraill agos o’r teulu. Mae o hefyd wedi gofyn am ganiatâd tad Miss Middleton,” meddai’r llefarydd.