Fe allai adeiladu cerflun anferthol o ddraig ger Wrecsam greu hyd at 500 o swyddi a denu 20,000 o ymwelwyr i ogledd ddwyrain Cymru bob blwyddyn.

Mae ymchwiliad annibynnol gan gwmni ymgynghori SQL yn rhagweld budd mawr i’r ardal yn nhermau swyddi, a ffyniant economaidd a diwylliannol, pe bai’r ddraig yn cael ei hadeiladu.

Mae disgwyl i’r cynllun gael caniatâd cynllunio o fewn y tair wythnos nesaf, a’r gobaith yw y bydd y ddraig yn ei le erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i’r cerflun 65 troedfedd gostio £6m i’w hadeiladu, ac fe fydd unrhyw elw yn cael ei fuddsoddi yn elusen Apêl Canser Frank Wingett.

Dywedodd y dyn busnes sy’n cynllunio’r prosiect, Simon Wingett, y byddai’n creu 190 o swyddi yn Wrecsam, 150 ar draws gogledd Cymru a 110 mewn rhannau eraill o Gymru.

Ond roedd rhaid disgwyl am ganiatâd cynllunio cyn bod modd rhoi unrhyw gynlluniau ar waith, meddai.