Mae elusennau wedi galw ar i Lywodraeth y Cynulliad amddiffyn yr henoed pan fyddan nhw’n datgelu eu cyllideb drafft yfory.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn wynebu toriadau o £860 miliwn yn sgîl yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ddatgelwyd fis diwethaf.
Rhybuddiodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, yn erbyn “gorymateb cyflym i’r pwysau ariannol presennol” gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae Age Cymru hefyd wedi galw am ddiogelu’r cyfan o’r arian sy’n cael ei wario ar leddfu tlodi ymysg pensiynwyr gan Lywodraeth y Cynulliad.
Daw’r alwad wrth i ymchwil newydd ddatgelu bod nifer fawr o bobol ar draws Cymru yn pryderu ynglŷn â chost talu biliau nwy a trydan yng Nghymru’r gaeaf yma.
Yn ôl arolwg gan Llais Defnyddwyr Cymru, mae 54% o boblogaeth Cymru yn pryderu ynglŷn â thalu’r biliau dros y gaeaf.
Ymysg pobol dros 65 oed, roedd 62% yn pryderu ynglŷn a talu’r biliau, a roedd 75% o bobol gyda salwch tymor hir neu anabledd yn pryderu ynglŷn a talu’r biliau.
“Ar drothwy gaeaf rhewllyd arall, mae angen gweithredu’n fuan er mwyn cynnal pobol fregus sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac yn gostwng eu gwres i lefel beryglus,” meddai Maria Battle, cyfarwyddwr Consumer Focus Wales.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod tua 2,500 o bobol hŷn yng Nghymru wedi marw yn ystod gaeaf 2008-2009. Mae hynny’n hollol annerbyniol.”