Mae’r cyn Ysgrifennydd Diwylliant, Rhodri Glyn Thomas, wedi rhybuddio na ddylai Llywodraeth y Cynulliad dorri’n ôl yn ormodol ar ei gyllideb ar gyfer y celfyddydau.
Yr wythnos diwethaf rhybuddiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y byddai’r celfyddydau yn wynebu toriadau mawr pan fydd cyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei ddatgelu yfory.
Dywedodd y Prif Weinidog bod Llywodraeth y Cynulliad yn wynebu toriadau o £860 miliwn yn sgil yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ddatgelwyd fis diwethaf.
Byddai amddiffyn cyllidebau iechyd ac addysg yn golygu bod rhaid torri nôl ar gyllidebau’r celfyddydau a chwaraeon, meddai.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, oedd yn Ysgrifennydd Diwylliant cyn i Alun Ffred Jones gymryd yr awenau, y byddai’n “wallgof” torri nôl ar gyllideb y celfyddydau, ac y dylai “gael ei weld fel buddsoddiad”.
“Mae’r diwydiannau creadigol mor bwysig i ddyfodol economi Cymru ac fe ddylen ni fod yn buddsoddi mwy o arian ynddyn nhw yn hytrach na’u torri yn ôl.
“Gobeithio y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried yn ofalus cyn torri arian a fydd yn talu yn ôl yn y dyfodol.”