Yn dilyn cyhoeddi colled o £90,000 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, mae Prif Weithredwr y Brifwyl wedi sôn am rai o’r sialensiau a’r newidiadau sy’n wynebu’r Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf.

Ymhlith y newidiadau mae penderfyniad i beidio cael adeilad ar y maes carafanau a chael “llwyfan agored” ar y Maes Ieuenctid o’r dydd Mercher ymlaen “llawer tebycach i lwyfannau Glastonbury.”

Mewn cyhoeddiad ar wefan yr Eisteddfod  mae Elfed Roberts, Prif Weithredwr y Brifwyl, yn egluro fod yr Eisteddfod wedi “cymryd y camau cyntaf i wneud arbedion gwerth £200,000 i’w gwariant eleni ac yn y dyfodol” ar ôl colledion eisteddfod Wrecsam.

Y newidiadau

“Rydan ni wedi sylweddoli bod gofod gwag sylweddol yn y Pafiliwn ac felly byddwn yn tynnu un bae o’r babell ac yn newid y cynllun seddau,” meddai Elfed Roberts cyn egluro mai arbrawf fydd hyn yn 2012.

“Os yw’n apelio at y gynulleidfa, y cystadleuwyr a’r darlledwyr, yna, efallai y bydd hyn yn cael ei wneud bob blwyddyn”.

Bydd newidiadau i Faes B a C yn ogystal, eglura.

O ran Maes C, dywedodd fod yr eisteddfod wedi penderfynu peidio cael adeilad ar y maes carafanau, ond yn hytrach y byddent yn “defnyddio’r llwyfan perfformio a lleoliadau amrywiol o amgylch y Maes ar gyfer gweithgareddau.”

“Eleni, dangosodd carafanwyr yr Eisteddfod yn glir  bod awyrgylch y Maes ei hun gyda’r nos yn apelio mwy na Maes C. A digwydd bod, mae hyn yn bosibl i’w wneud am y ddwy flynedd nesaf gan fod y maes carafanau am fod yn agos at y Maes,” meddai’r Prif Weithredwr.

“Fe fydd hyn yn arbed arian i ni, ond mae hefyd yn gyfle i ni arbrofi ac i ddefnyddio adeiladau ar y Maes fel Y Lle Celf, y Theatr a’r Babell Lên mewn ffordd wahanol gyda’r nos. Arbrofi gydag adnoddau sydd gennym eisoes y byddwn ni’r flwyddyn nesaf”.

‘Llawer tebycach i Glastonbury’

Dywedodd hefyd y bydd Brwydr y Bandiau Maes B yn cael ei chynnal ar y Maes ei hun yn 2012, ond o’r nos Fercher ymlaen y “bydd llwyfan agored ar y Maes Ieuenctid – llawer tebycach i lwyfannau Glastonbury.”

Yn ôl Elfed Roberts, un fynedfa i’r Maes fydd ym Mro Morgannwg a bydd yr Eisteddfod hefyd yn cael gwared â phafiliwn y noddwyr, yr ardal lletygarwch corfforaethol yn y bwyty ac yn torri i lawr ar y byrbrydau a gynhelir ar y Maes.

Fe fyddan nhw hefyd yn  gosod llai o garped mewn adeiladau, meddai.

Dim ond un llwyfan perfformio fydd ar y Maes y flwyddyn nesaf ac un patio bwyd mawr.

“Mae digonedd o ardaloedd yng Nghymru am ein gwahodd atynt, ond mae’n rhaid cael mwy na chefnogaeth ardal i sicrhau llwyddiant. Ydych chi’n barod i gefnogi drwy fynychu’r Eisteddfod? Dyma, yn y pen draw, fydd yn sicrhau dyfodol a ffyniant ein gŵyl genedlaethol,” meddai Elfed Roberts.

‘Dim effaith ar y profiad Eisteddfodol’

“Mae yna nifer o gyfarfodydd wedi bod dros yr wythnosau diwethaf ac mi ydan ni wedi llwyddo i gael hyd i tua £200,000 o arbedion heb effeithio ar y profiad Eisteddfodol,” meddai Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod.

“Dw i’n meddwl y bydd Maes C yn gweithio’n dda ar y Maes ac yn ddefnydd da o’r adeiladau gyda’r nos.  Dim ond gobeithio y bydd pobl yn ymateb yn bositif ac yn rhoi cyfle i ni drio gwneud i bethau weithio.”

Ymateb Cynghorydd

Yn ol Arfon Jones, Cynghorydd Plaid Cymru, Wrecsam doedd dim digon o le yn y Pafiliwn yn ystod y coroni a’r cadeirio. “Os ydyn nhw’n mynd i dorri  lawr ar nifer y seddau, beryg na fydd digon o le ar gyfer y prif seremonïau,” meddai’r cynghorydd wrth Golwg360.

Roedd hefyd yn pryderu am effaith peidio cael adeilad ar y maes carafanau.

“I fod yn onest, ym Maes C mae’r awyrgylch. Dyma le mae pobl yn mynd, mi ddylen nhw gadw pethau fel Maes C,” meddai. “O ran cael llwyfan agored ym maes B, grêt os yw’r tywydd yn iawn – neu ti am gael profiad Glastonbury go iawn. Dw i ddim yn gwybod faint o bobl sydd am aros o gwmpas i wylio perfformiadau Cymraeg yn y glaw,” meddai.

Dywedodd mai “llwyddiant mawr” Eisteddfod Wrecsam oedd “gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr orsaf ganolog.”

“Dw i’n meddwl dylai’r Gymdeithas a’r steddfod ddod at ei gilydd i roi un llwyfan i ieuenctid,” meddai.

“Does ’na ddim digon o bobl ifanc yn dod i’r eisteddfod i fynd i gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith. Mae gan y Gymdeithas well syniad o sut i’w gwneud hi. Roedd y Central Station yn llawn dop bob nos. Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod yw’r rhai mwyaf llwyddiannus dw i ’di bod ynddyn nhw erioed.”