Bydd Y Niwl yn canu yn y gig
Bydd gig lenyddol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heno i gloi dathliadau pen-blwydd hanner cant cylchgrawn Taliesin.
Fe fydd Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Aneirin Karadog, Osian Rhys Jones, Llŷr Gwyn Lewis, Gwilym Dwyfor ac Anni Llŷn yn cyfrannu i’r gig gyda Richard James yn canu set acwstig ynghyd a chyfraniad gan Y Niwl.
Bydd y gig yn cael ei chynnal yn nhafarn y Bunkhouse ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd heno.
Hanes
Cyhoeddwyd y Taliesin cyntaf nôl ym 1961, flwyddyn wedi sefydlu Yr Academi Gymreig, dan olygyddiaeth Gwenallt.
Cafwyd cyfraniadau gan fawrion y byd llenyddol yng Nghymru gan gynnwys Kate Roberts, T.H.Parry Williams ac Islwyn Ffowc Elis ymysg eraill.
Wedi ei fagu yng nghôl degau o olygyddion ar hyd y blynyddoedd, mae Taliesin bellach yn nwylo abl Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen.
Mae Taliesin yn cael ei gyhoeddi gan yr Academi Gymreig, sydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru.