Mae trysorydd Pwyllgor Apêl Eryri wedi dweud wrth Golwg360 fod yr ymdrech i gasglu arian at Eisteddfod yr Urdd yn Eryri yn mynd yn “dda iawn” ac mai’r peth pwysicaf yw “anelu am eisteddfod hapus”.

Mae’r pwyllgor yn anelu at gyrraedd £300,000.

“Ar y cyfan- rydw i’n hapus iawn – rydan ni o fewn cyrraedd y targed,” meddai Richard Morris Jones, Trysorydd Pwyllgor Apêl yr Urdd wrth Golwg360.

“Rydan ni mwy neu lai wedi cyrraedd ’chydig dros £250,000. Rydan ni’n anelu i gasglu hanner can mil arall i gyrraedd y £300,000,” meddai.

Mae ’na ardaloedd sydd wedi mynd tu hwnt i’w targed – ymhlith yr ardaloedd hynny Bontnewydd, Llanfaglan, Llanddeiniolen, Cwm Penant, Garndolbenmaen, Groeslon a llawer iawn mwy.

“O ran  y trefi mawr  – mae Caernarfon yn gwneud yn arbennig o dda. Mae ganddyn nhw darged o tua £35,000 – maen nhw wedi cyrraedd £28,000 erbyn hyn.”

“Ysbrydoliaeth”

“Be ’dw i wedi bod yn pwysleisio fel trysorydd ydi bod yr ysbrydoliaeth y mae pobl ifanc ar ardaloedd yn ei gael wrth weld gweithgaredd yn digwydd yr un mor bwysig a chodi’r arian – eu bod nhw’n codi’r ysbryd hefyd. Mae’r ddau beth ynghlwm dw i’n credu.”

Un o’r gweithgareddau llwyddiannus i godi arian oedd pyramid swpera lle mae grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd ac yn talu am y swper, meddai.

“Rydan ni’n hapus iawn hefo’r ymateb. Roedd Pwllheli yn hwyr iawn yn cychwyn ond maen nhw fyny i tua 80% yn barod.”

‘Agos at y galon’

“Mae’r achos yn agos at galonnau pobl- mi gawson ni eisteddfod lwyddiannus iawn yng Nglynllifon o’r blaen. Hefyd, dw i’n credu bod her rhwng ardaloedd o dan yr wyneb. Y ffaith bod Llanerchaeron wedi gwneud mor arbennig o dda – wel rydan ni eisiau gwneud yn well,” meddai.

“Rydan ni eisiau i bobl fwynhau – a’n prif beth yw anelu am eisteddfod hapus.”

Fe fydd elw cyngerdd blynyddol Côr Meibion y Penrhyn yn neuadd Pritchard Jones, Bangor ar 11 Ragfyr am 7.30pm yn mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd, Eryri. Ymhlith y gwesteion mae’r tenor Rhys Meirion a’r pianydd Iwan Llywelyn Jones, y delynores  Glain Dafydd a Gwyn Owen y trwmpedwr.

Hefyd, bydd elw gig sy’n cael ei drefnu drwy Pontio sy’n cynnwys Y Bandana a Sen Segur ar Ragfyr 21 yn Neuadd John Phillips yn mynd tuag at  Eisteddfod Eryri.