Bydd rhewlifegydd o Aberystwyth yn ymuno â thîm y Frozen Planet ar BBC 1 nos yfory, ar gyfer rhaglen olaf y gyfres natur sydd wedi bod yn edrych ar effaith newidiadau hinsawdd ym mhegwn y gogledd a’r de.

Bydd Dr Alun Hubbard yn ymuno â chyflwynydd y gyfres, David Attenborough, ar silff iâ yr Ynys Las, wrth iddo deithio o un pegwn y byd i’r llall yn ymchwilio i newidiadau cynhesu byd eang ar bobol, bywyd gwyllt, a’r blaned.

Mae’r brodor o Borth, ger Aberystwyth, wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm cynhyrchu Frozen Planet drwy gydol y gwaith ffilmio ar yr Ynys Las, a gafodd ei wneud yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst y llynedd.

Roedd yr academydd a chriw ymchwil o Brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe wedi trefnu mynd i’r Ynys Las am bythefnos i wneud gwaith ymchwil ym Melt Lake, ac fe aeth saith aelod o griw ffilmio’r BBC gyda nhw, yn ogystal â nifer o ohebwyr gwahanol.

Bu Alun Hubbard yn cynorthwyo a chyfarwyddo tîm ffilmio’r BBC yn Store Glacier, un o’i safleoedd ymchwil ar yr Ynys Las, lle ffilmiwyd yr olygfa o fynydd iâ yn toddi, a welwyd yn rhifyn gyntaf y gyfres.



Mae Alun Hubbard wedi bod yn cynghori ac yn helpu cynhyrchwyr Frozen Planet ers 2008, wrth geisio datrys nifer o anawsterau gwyddonol ac ymarferol o ffilmio mewn ardal mor anial.

Yn sgil ei gysylltiad â’r rhaglen, mae’r academydd wedi benthyg hofrenyddion i’r criw ffilmio, a llong – o’r enw Y Gambo – sydd wedi bod yn helpu gyda’r ffilmio ar y môr.

Yn ôl Alun Hubbard, fe fu “cydlynu amrywiol griwiau a hofrenyddion i ddarparu cefnogaeth o’r tir, yr awyr, a’r môr, ynghyd â rheoli timau gwaith iâ mewn llefydd anodd a pheryglus” yn waith anodd ar adegau, ond mae’n hapus bod y deunydd terfynol yn dangos bod y gwaith caled wedi talu ffordd.

“Mae’n braf medru eistedd yn ôl nawr a mwynhau ffrwyth yr holl ymdrechion hyn,” meddai.

“Mae’r gyfres gyfan o Frozen Planet, gan gynnwys ein hymchwil ar yr Ynys Las, yn edrych yn wefreiddiol,” meddai.

Mae Alun Hubbard wedi bod yn aelod o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ers mis Ebrill 2007. Yn ystod ei gyfnod gyda’r adran mae wedi bod yn flaenllaw iawn wrth ddogfennu diflaniad y rhew ar yr Ynys Las.

Yn ystod yr haf eleni, fe gyhoeddodd Alun Hubbard ddelweddau syfrdanol yn dangos bod Rhewlif Petermann – sef rhewlif fwyaf yr Ynys Las – wedi culhau 20km mewn dim ond dwy flynedd.

Mae’r ffotograffau, a dynnwyd gan Alun Hubbard ar yr un dydd ym mis Gorffennaf yn 2009 a 2011, yn dangos y 300km o rewlif – sef 6% o arwynebedd silff iâ yr Ynys Las. Mae’r lluniau yn dangos y newid mawr yn y rhewlif wedi i fynydd iâ enfawr ddatod oddi wrtho ym mis Awst 2010.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Dr Alun Hubbard a’r newid yn silff iâ yr Ynys Las i’w gael ar wefan y Brifysgol, ar www.aber.ac.uk/greenland.

Bydd y bennod olaf yn y gyfres hon o Frozen Planet yn cael ei dangos nos yfory, am 9pm, ar BBC1.