b
Bryn Fon - un o'r streicwyr
Bydd cerddorion Cymru yn ceisio atal Radio Cymru rhag chwarae eu cerddoriaeth am dridiau yn ystod mis Rhagfyr, a hynny am nad ydyn nhw’n derbyn digon o arian am eu cerddoriaeth.

Mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru wedi penderfynu cynnal streic arall rhwng 19 a 21 Rhagfyr eleni, mewn protest yn erbyn y taliadau “pitw” am chwarae eu caneuon ar Radio Cymru.

Hon fydd yr ail streic o fewn blwyddyn i’r cerddorion, ond y tro diwethaf, ar 1 Mawrth eleni, dim ond undydd o streic a gynhaliwyd, yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu cerddoriaeth.

Yn ôl y Gynghrair, cafodd cerddorion eu siomi gan ddiffyg ymateb Radio Cymru i’r streic y tro hwnnw.

“Er i’r gweithredu hwn achosi problemau di-ri i’r Gorfforaeth, ac er iddyn nhw gyhoeddi ar y pryd eu bod yn cydymdeimlo â’n safbwynt, ni ddaeth dim ymateb pellach,” meddai’r Cynghrair mewn datganiad.

Yr ail streic

Mae’r Gynghrair wedi penderfynu atal eu caniatâd i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth unwaith eto, a hynny am dridiau y tro hwn.

“Y tro yma hefyd rydym yn targedu ein llid tuag at Ymddiriedolwyr y BBC, sydd yn ôl eu siarter eu hunain yn gyfrifol am y modd y mae arian cyhoeddus y drwydded yn cael ei wario.”

Mae’r Gynghrair yn gwrthwynebu’r ffaith fod un tâl cyffredinol yn cael ei roi i’r PRS, er mwyn gadael iddyn nhw ddosbarthu’r arian rhwng cerddorion fel y mynnan nhw.

Ar hyn o bryd mae Radio Cymru yn talu 49c y funud i gerddorion Cymraeg – tâl sydd, yn ôl y Gynghrair, yn “hollol annigonol,” ac yn golygu bod cerddorion yn gwneud colled o ystyried cost creu’r gerddoriaeth.

Bygwth dyfodol cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl y Gynghrair, mae’r taliadau presennol yn bygwth dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

“Ers tair blynedd bellach, mae llawer o gerddorion wedi gadael y byd cerddoriaeth i ymgymryd â swyddi eraill, gan nad oes arian ar ôl yn y diwydiant, mae hyn yn peryglu holl ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”

Dywed y Gynghrair, sy’n cynnwys cerddorion fel Gwyneth Glyn, Bryn Fôn, Rhys Mwyn a Gai Toms, nad oes dewis bellach ond gweithredu.

Ymateb BBC Cymru

Dywedodd  llefarydd ar ran BBC Cymru:  “Anghydfod rhwng y PRS (Performing Rights Society) a’u haelodau yng Nghymru, sef y cerddorion eu hunain, yw hon ac nid dadl gyda BBC Radio Cymru.
“Mae’n anffodus y gallai gwrandawyr Radio Cymru ddioddef yn sgil protest o’r fath, yn enwedig o gofio’r gefnogaeth y mae’r orsaf yn ei rhoi i gerddorion yng Nghymru.  Yr ydym yn falch o’r cyfleodd rydym yn eu cynnig i gerddorion yng Nghymru  – o feithrin talent newydd i gefnogi cerddorion mwy profiadol.

“Fel cefnogwr brwd o’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg felly, mae’r ffaith nad ydi’r anghydfod yma rhwng y PRS a’i haelodau yng Nghymru wedi ei ddatrys yn achos pryder i ni ac rydym yn cydymdeimlo gyda nhw. Ond PRS sydd yn penderfynu ar ddosrannu taliadau – nid y BBC – a mater iddyn nhw felly ydy trafod ymhellach gyda’u haelodau.”