Neil McEvoy
Mae Plaid Cymru wedi diarddel dirpwy arweinydd Cyngor Caerdydd o’r blaid, ar ôl i sylwadau dadleuol ymddangos ar ei dudalen Facebook.

Mae Golwg 360 yn deall fod cwyn wedi ei wneud yn erbyn y Cynghorydd Neil McEvoy wedi iddo gyhuddo mudiad Cymorth i Ferched Cymru o gefnogi “camdrin plant gydag arian cyhoeddus.”

Cadarnhaodd Cadeirydd y blaid, Helen Mary Jones, fod Plaid Cymru wedi derbyn “cwyn sy’n ymwneud â’r Cynghorydd Neil McEvoy.”

Ond yn ôl Neil McEvoy, mae’r sylwadau a wnaeth ar Facebook yn rhai y mae e wedi bod yn eu gwneud yn gyson ers blwyddyn a hanner erbyn hyn.

“Dwi’n synnu ’mod i nawr yn cael fy meirniadu am sylwadau wnes i eu gwneud gynta’ rhyw 18 mis yn ôl,” meddai, wrth drafod y mater gyda Golwg 360.

Mae’r cynghorydd yn cyhuddo’r grŵp o geisio’i “danseilio” â chwynion yn ei erbyn.

“Y prif bwynt yn hyn i gyd yw bod y grŵp yn cefnogi menywod sy’n torri gorchmynion llys sy’n rhoi hawl i dadau weld eu plant.

“Dylai arian cyhoeddus ddim fod yn mynd i gefnogi grwpiau sy’n cefnogi pobol sy’n torri’r gyfraith,” meddai.

Gwadu’r cyhuddiad

Mae’r sylwadau, sy’n dal i’w gweld ar dudalen Facebook y cynghorydd, yn cael eu gwadu’n llwyr gan Brif Weithredwr y grŵp Cymorth i Fenywod Cymru.

Ond yn ôl Neil McEvoy mae ganddo dystiolaeth o achosion lle mae menywod yn cael cefnogaeth i atal tadau rhag gweld eu plant.

“Dwi’n gofyn y cwestiynnau anodd fan hyn,” meddai Neil McEvoy. “Ond sut all unrhyw un feddwl ei bod hi’n iawn i dorri gorchmynion llys?

“Os yw tadau’n cael yr hawl i weld eu plant, mae hynny oherwydd bod y llysoedd wedi dod i’r casgliad eu bod nhw’n rieni da.”

Ond mae Plaid Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod nhw wedi atal aelodaeth Neil McEvoy o’r blaid “yn unol â rheolau sefydlog y Blaid, hyd nes y gwneir penderfyniad ynglyn a’r gwyn gan Banel Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.”

Ond mae Neil McEvoy yn dweud mai ei brif amcan ar hyn o bryd yw tynnu sylw at ei sylwadau.

“Galla’ i ddelio â’r diarddeliad,” meddai wrth Golwg 360, “ond mae’n rhaid i ni ddechrau taclo pobol sy’n torri gorchmynion llys ac sy’n atal rheini rhag cael gweld eu plant.”

Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw’n mynd i ddelio â’r mater yn fewnol nawr, ac nad oes unrhyw sylw pellach i’w wneud ar hyn o bryd.

Ac fe ychwanegodd Cymorth i Ferched Cymru a Safer Wales eu bod  yn croesawu’r ymchwiliad, ond “tra

mae’r ymchwiliad yn parhau ni fydd yn briodol i wneud unrhyw sylwadau pellach.”