Dywed yr undebau bod y streic heddiw gan ddwy filiwn o weithwyr y sector cyhoeddus yn “hanesyddol” ac mae nhw wedi wfftio honiadau’r Prif Weinidog bod y streic wedi bod yn aneffeithiol ac wedi cyflawni dim.
Dywedodd David Cameron yn Nhy’r Cyffredin bod y streic yn “anghyfrifol ac yn niweidiol” ac nad oedd y mwyafrif wedi cefnogi’r streic, wrth iddo geisio amddiffyn y newidiadau i bensiynau’r gweithwyr.
Ond mae swyddogion y 30 undeb oedd yn gysylltiedig â’r streic heddiw wedi dweud bod na gefnogaeth sylweddol i’r streic gyda hyd at 90% o weithwyr mewn rhai sefydliadau yn gweithredu’n ddiwydiannol, rhai am y tro cyntaf erioed.
Roedd y streic wedi cau hyd at 90% o ysgolion yng Nghymru ac wedi amharu ar wasanaethau mewn ysbytai, llysoedd, llyfrgelloedd, canolfannau gwaith a thrafnidiaeth.
Yn ôl yr undebau, dyma’r streic fwyaf ers 1979.
Dywedodd undeb Prospect sy’n cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth sifil bod streic gan 26,000 eu haelodau wedi amharu ar wasanaethau mewn 400 o sefydliadau, gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn a charchardai.
Cafodd mwy na 1,000 o raliau eu cynnal ar hyd y DU gan gynnwys un gan ddegau o filoedd o streicwyr ynghanol Llundain.
Dywedodd Len McCluskey, arweinydd undeb Unite, bod y rali yn dangos pa mor gandryll mae gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Roedd “llond llaw” o staff Rhif 10 Downing Street hefyd wedi mynd ar streic ac roedd ysgol mab David Cameron hefyd ar gau.
Fe ddatgelwyd bod yr Adran Iechyd wedi dweud wrth ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr nad oedden nhw i ryddhau ffigyrau yn cyhoeddi faint o staff oedd wedi streicio na nifer y llawdriniaethau ac apwyntiadau oedd wedi eu canslo.
Dywedodd Christina McAnea, pennaeth undeb iechyd Unsain bod hyn yn ymdrech “warthus” i geisio “camliwio’r gwirionedd”.
Dywedodd yr athrawes ysgol gynradd Teresa Hughes, 48, o Gasnewydd, oedd wedi ymuno â’r rali yn Abertawe: “Mae athrawon fel fi yn gorfod gweithio mwy ond am lai.
“Dwi ddim yn credu bod neb eisiau mynd ar streic ond gofynnwch i unrhyw un yma heddiw ac fe fyddan nhw’n dweud wrthoch chi nad oedden ni’n teimlo bod dewis gynnon ni ond i weithredu’n ddiwydiannol.”
Yn ôl gweinidog y Cabinet Francis Maude roedd y streic yn “anghyfrifol” gan ddweud bod honiadau’r undebau nad oedd trafodaethau yn cael eu cynnal yn anghywir.
Dywedodd bod trafodaethau ffurfiol wedi cael eu cynnal gyda undebau’r gwasanaeth sifil ddoe ac y bydd rhagor o drafodaethau gydag undebau’r athrawon yfory a iechyd ddydd Gwener.