Cafodd pump o bobol eu harestio mewn parti tŷ yng Nghaerdydd nos Wener (Mehefin 19).

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 8 o’r gloch y nos i eiddo yn ardal Llaneirwg, lle’r oedd parti mawr yn cael ei gynnal, ac fe gafodd pedwar o blismyn anafiadau yn dilyn ymosodiad arnyn nhw.

 

Cafodd pedwar dyn ac un ddynes eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr gwasanaethau brys, a’u rhyddhau dan ymchwiliad ddoe.

 

Mae Heddlu’r De yn atgoffa pobol i gadw at gyfyngiadau’r coronafeirws, er iddyn nhw gael eu llacio ychydig, a dylai pobol aros yn eu hardal leol, meddai llefarydd.

 

Mae modd i bobol gyfarfod â phobol o dŷ arall erbyn hyn, ond dim ond yn yr awyr agored.

 

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyfyngiadau.