Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad mewn parc yn Reading, lle cafodd tri o bobol eu lladd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 20), yn dweud eu bod nhw’n trin y digwyddiad fel un brawychol wedi’r cyfan.

Cafodd tri o bobol eu lladd, ac mae tri o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, ac mae dyn 25 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio.

 

Ond fe ddywedodd yr heddlu i ddechrau nad oedden nhw’n ei drin fel digwyddiad brawychol, er bod tystion yn dweud iddyn nhw glywed “geiriau annealladwy” yn cael eu gweiddi yn dilyn y digwyddiad.

 

“Gall Heddlu Gwrth-Frawychiaeth gadarnhau bellach fod y digwyddiad o drywanu yn Reading neithiwr (20/6) wedi cael ei ddatgan yn ddigwyddiad brawychol,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

 

“Mae swyddogion Heddlu Gwrth-Frawychiaeth y De-ddwyrain wedi bod yn cydweithio’n agos ag Adran Droseddau Mawr Heddlu Thames Valley drwy gydol y nos.

“Mae’r Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Dean Haydon, Prif Gydlynydd Cenedlaethol y rhwydwaith Heddlu Gwrth-Frawychiaeth, wedi datgan bore heddiw fod y digwyddiad yn un brawychol, ac fe fydd CTPSE yn cymryd rheolaeth o’r ymchwiliad.”