Mae angen cymorth ariannol ar y diwydiant dur o fewn diwrnodau ac nid wythnosau, yn ôl aelod seneddol Llafur Aberafan.

Wrth siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC heddiw (dydd Sul, Mehefin 21), dywedodd Stephen Kinnock fod y diwydiant dur yn allweddol er mwyn sicrhau bod yr economi’n gwella ar ôl ymlediad y coronafeirws.

Mae’r gwrthbleidiau’n galw ar Lywodraeth Prydain i gynnig benthyciadau i gwmnïau dur fel Tata ym Mhort Talbot er mwyn gwneud yn iawn am y cwymp sylweddol yn y galw am ddur dros y misoedd diwethaf.

“All ddim byd gweithio yn y wlad hon yn nhermau’r sector gweithgynhyrchu heb ddur, mewn gwirionedd,” meddai.

“Mae dur yn y swyddfeydd rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw, yn y ceir rydyn ni’n eu gyrru, yn y trenau rydyn ni’n teithio arnyn nhw, hyd yn oed y cyllyll a ffyrc rydyn ni’n eu defnyddio i fwyta ein bwyd.”

Problemau Tata

Hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd cwmni Tata wedi gwneud colledion cyn treth o £371m y llynedd.

Fe fu sôn ers tro am gynnig benthyciadau i gwmnïau fel cam olaf, ond byddai angen sicrwydd na fyddai trethdalwyr ar eu colled.

Ond mae rhai hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i rannu baich y sefyllfa.

“Rydyn ni’n annog y llywodraeth i gefnogi’r diwydiant nawr, a hefyd i feddwl am gost gwneud dim byd,” meddai Stephen Kinnock.

“Mae yna 4,000 o ddynion a menywod sy’n cael eu talu’n eithaf da yng ngweithfeydd dur Port Talbot, a miloedd yn rhagor o swyddi sy’n talu’n eithaf da yn y diwydiant dur ledled y wlad.

“Dychmygwch beth fyddai cost colli’r swyddi hynny.

“Dychmygwch y gost o ddatgomisiynu gweithfeydd dur â ffwrneisi a chost sylweddol hynny i’r llywodraeth.

“Felly rydyn ni’n dweud wrth y llywodraeth – rhowch y benthyciad dros dro.

“Mae’n fenthyciad fydd yn cael ei ad-dalu er mwyn osgoi cost sylweddol gwneud dim byd.”