Mae rhyw 75 o achosion o’r coronafeirws mewn ffatri ieir yn Llangefni erbyn hyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Daeth gwaith ffatri 2 Sisters i ben ddydd Iau (Mehefin 18) yn dilyn yr achosion cyntaf wrth i’r perchnogion ddweud eu bod nhw’n “gwneud y peth iawn”, ond fe fu cynnydd sylweddol ers hynny.

Mae staff y ffatri’n ynysu am bythefnos, ac mae mwy na 350 o bobol wedi rhoi samplau ar gyfer profion.

Yn ôl y cwmni, daeth cadarnhad o’r achosion cyntaf ar Fai 28, ac mae gweithdrefnau gweithio’n ddiogel yn eu lle ers mis Mawrth.

Mae 560 o bobol yn gweithio ar y safle yn Llangefni, a bydd eu gwaith yn cael ei drosglwyddo i safleoedd eraill tan Orffennaf 2.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedden nhw wedi rhagweld y cynnydd dros y dyddiau diwethaf.

Wrecsam

Daw’r newyddion am ffatri 2 Sisters ddiwrnodau’n unig ar ôl i 38 aelod o staff yn ffatri Rowan Foods yn Wrecsam brofi’n bositif ar gyfer y feirws.

Ond yn ôl penaethiaid, roedd yr achosion yn arwydd o’r cynnydd yn yr ardal leol, ac nid ar safle’r ffatri’n benodol.

Mae 2 Sisters yn cyflenwi rhai o siopau mwyaf gwledydd Prydain, gan gynnwys KFC a Marks & Spencer.

Ond dyw’r safle yn Llangefni ddim yn cyflenwi siopau na gwasanaethau bwyd wedi’i frandio, yn ôl y cwmni.