Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau heddiw y bydd yn dechrau agor rhai meysydd parcio yn ei safleoedd ledled Cymru ddydd Mercher (Mehefin 17).

Caiff y meysydd parcio eu hagor yn raddol mewn ffordd ofalus ac atgoffir ymwelwyr na fydd pob cyfleuster ar gael ym mhob safle.

Bydd tudalen we yn cael ei lansio ar wefan CNC ddydd Mercher lle bydd gwybodaeth ynghylch y safleoedd sydd ar agor ac ar gau.

Bydd y meysydd parcio yn dal i gael eu harchwilio yn ystod y diwrnodau nesaf er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn barod i ymwelwyr allu dychwelyd iddyn nhw’n ddiogel yn ddiweddarach yr wythnos hon.

“Mae’r penderfyniadau ynghylch pa feysydd parcio sy’n gallu ailagor ar hyn o bryd wedi cael eu gwneud yn unol â chyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gydag ystyriaeth ofalus o’r angen i gynnal diogelwch ein hymwelwyr, staff a’r gymuned leol drwy’r adeg,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Hyn fydd ein prif flaenoriaeth o hyd.

“Wrth ddefnyddio ein meysydd parcio, ac os yw llwybrau troed a llwybrau ar agor, rydyn ni’n annog ymwelwyr i barchu ei gilydd a’r gymuned leol trwy ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a gwarchod yr amgylchedd naturiol trwy ddilyn y cod cefn gwlad.”

Llwybrau a chanolfannau ymwelwyr

Mae mwyafrif llwybrau cerdded CNC wedi aros ar agor yn ystod y misoedd diwethaf, ond bydd llwybrau beicio mynydd, canolfannau ymwelwyr a chaffis yn parhau i fod ar gau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Yn ôl CNC, dim ond pan fyddan nhw’n sicr y gellir ei wneud yn ddiogel y bydd y cyfleusterau hyn yn agor, gan ystyried dull graddol Llywodraeth Cymru o lacio cyfyngiadau.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd nifer o bobl yn awyddus i ddychwelyd i’n holl safleoedd,” ychwanegodd Clare Pillman.

“Ond rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n ymdrin â hynny yn y ffordd fwyaf diogel a chyson posibl.

“Am nawr, rydyn ni’n dal i ofyn yn daer i bobl Cymru aros yn lleol a chadw ein cymunedau a Chymru’n ddiogel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr yn ôl i’n holl safleoedd yn y dyfodol agos.”