Mae dau gynghorydd arall yng Ngwynedd wedi ymuno â ‘Phlaid Genedlaethol Cymru’, neu’r ‘WNP’, a gafodd ei sefydlu gan yr Aelod Senedd Neil McEvoy yn gynharach eleni.
Mae’r cynghorydd tref dros Ddwyrain Porthmadog, Jason Humphreys, yn ymuno â’r blaid o Llais Gwynedd, tra bod Dylan Bullard wedi bod yn gynghorydd annibynnol dros Ogledd Pwllheli tan iddo ymuno â Neil McEvoy.
Dywed Jason Humphreys ei fod wedi ymuno â’r ‘WNP’ oherwydd bod y blaid yn cynrychioli’r “awyr iach newydd mae llawer ohonom wedi bod yn disgwyl am o fewn gwleidyddiaeth Cymru.”
“Mae yna lawer gormod o daro bargeinion mewn dirgel, nepotiaeth, sathru ar drafodaethau agored a thagu ein cymunedau,” meddai mewn datganiad.
“Mae ‘Plaid Genedlaethol Cymru’ yn rhoi pobol a chymunedau yn gyntaf, nid buddiannau cul pleidiau gwleidyddol.”
Wrth ei goesawu, dywedodd arweinydd y ‘WNP’, Neil McEvoy: “Rwyf yn falch iawn fod Jason wedi ymuno. Mae o wedi bod yn weithgar yn ei gymuned ers dros chwarter canrif a hyn yw’r math o weithiwr caled yr ydym eisiau.
“Mae’r ‘Blaid Genedlaethol’ yn torri tir newydd ac yn cynnig ffordd wahanol i status quo Plaid Cymru yng Ngwynedd.
“Rwyf yn sicr na Jason fydd y cynghorydd olaf i ymuno a’r grym dros newid gwleidyddol newydd yng Nghymru.”
“Denu pobol o bob ochr”
Dywed Neil McEvoy fod ei blaid yn “denu pobol o bob ochr o’r sbectrwm gwleidyddol gan fod pobol wedi ‘laru ar y status quo.”
“Rydym eisiau i’r Senedd weithio i bawb yng Nghymru, nid dim ond ychydig o bobol ym Mae Caerdydd,” meddai Neil McEvoy.
“Ac yn wahanol i bleidiau eraill, rydym yn gwerthfawrogi pobol sydd â barn wahanol – ni yw’r blaid fwyaf amrywiol yng Nghymru.
“Rydym yn blaid dros bawb yng Nghymru, nid dim ond siarad am hynny, ac mae ymateb positif y cyhoedd i’n plaid yn dychryn y pleidiau eraill.”
Lambastio Plaid Cymru
Mae Neil McEvoy wedi beirniadu record Plaid Cymru tra mewn grym ar Gyngor Gwynedd.
Dywed fod tai haf yn un o’r materion pwysicaf i bobol yng Ngwynedd a bod Plaid Cymru wedi methu gweithredu ar y mater.
“Mae Plaid Cymru wedi cael 40 mlynedd i weithredu ar y mater o dai haf, ond dyw’r blaid heb wneud dim,” meddai.
“Mae’r peth yn anghredadwy.”
Mae hefyd yn feirniadol o’r ffaith fod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn “fodlon creu cytundebau â chenedlaetholwyr Prydeinig ym mhlaid y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd.”
Aeth ymlaen i honni bod gweithredoedd Plaid Cymru yn “galluogi Mark Drakeford i aros mewn grym.”
“Ni yw’r blaid sydd yn herio Mark Drakeford a Llafur yng Nghymru,” meddai.
Ymateb Plaid Cymru
Ond wrth ymateb, dywed Plaid Cymru fod Neil McEvoy yn “hwyr i’r drafodaeth” ynglŷn â thai haf a bod cefnogaeth i’r blaid “ar i fyny.”