Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni, bydd cwmni Cadwyn Cyf yn dathlu 50 mlynedd o deithio o Eisteddfod i Eisteddfod.
Dydd Iau, Awst 8 ym mhabell Cymdeithasau 2 ym Mhontypridd, bydd cyfle i gyn-weithwyr a’r cyhoedd hel atgofion, sgwrsio a dathlu.
Bydd arddangosfa o luniau o Cadwyn dros y blynyddoedd yn eu huned, a bydd sêl yno hefyd wrth i’r cwmni werthu cynnyrch gan grefftwyr Cymreig.
Gwerthu ers 1974
Cafodd y busnes ei sefydlu gan yr ymgyrchwyr iaith adnabyddus Ffred a Meinir Ffransis yn 1973, a dechreuodd y cwmni fasnachu flwyddyn yn ddiweddarach.
Cadwyn oedd y stondin fasnachol gyntaf ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Rhyl yn 1974, gan fynd yn eu blaenau yr un flwyddyn i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin.
Wrth siarad â golwg360, dywed Ffred Ffransis mai’r “bwriad ar y pryd oedd ceisio sefydlu cwmni oedd gyda gwerth yn y frwydr dros Gymru a’r Gymraeg”.
“Hynny yw, drwy ddosbarthu nwyddau crefftwyr o Gymru, a darparu mwy o gyfleoedd gwaith i bobol o Gymru.
“Ond hefyd, ein bod yn gallu trefnu’r gwaith yn ôl ein cyfleustra a’n hamser ein hunain, ac felly ein bod yn rhydd i ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith, gan fynd i’r digwyddiadau a’r protestiadau yn ôl yr angen.”
A dyna ddau nod sylfaenol y cwmni, sef darparu cyfleoedd i grefftwyr Cymru werthu eu cynnyrch ac ennill bywoliaeth, ond hefyd i alluogi gweithwyr y cwmni i gael amser i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd dros gymunedau rhydd.
Pwysleisia mai’r prif egwyddor oedd ‘gwaith ar gyfer bywyd, nid bywyd ar gyfer gwaith’.
Masnach deg
Un dull sydd gan y cwmni o werthu nwyddau yn yr Eisteddfod yw llosgi ysgrifen [pyrography] enwau Cymraeg ar nwyddau pren neu ledr.
“Dros y blynyddoedd, mae cenedlaethau o bobol o’r eisteddfodau cenedlaethol wedi cael eu henwau wedi’u llosgi ar amrywiaeth o anrhegion bach, fel llwyau caru pren a chwpanau wy pren,” meddai Ffred Ffransis wedyn.
Ond noda nad oedd yn teimlo bod diwydiant lledr iawn yng Nghymru.
Ar ôl iddo fo a Meinir fod ar wyliau ieuenctid mewn gwersyll yng Ngogledd Affrica ddiwedd y 1980au, meddai, roedden nhw wedi sylwi ar lawer o grefftau lledr yno.
Fe wnaethon nhw benderfynu cychwyn ail ran eu busnes drwy fynd i wledydd Affrica i gefnogi eu masnach nhw.
Erbyn heddiw, mae Cadwyn wedi masnachu’n deg a meithrin perthnasau agos gyda grwpiau o grefftwyr yng ngwledydd datblygol gogledd a gorllewin Affrica, megis Moroco, Burkina Faso a Niger.
“Ein diffiniad ni o fasnach deg yw ein bod yn dod i adnabod y crefftwyr a’u teuluoedd, gan eu trin gyda’r un parch ag y byddech yn trin unrhyw un, sicrhau bod y pris am y nwyddau yn deg, a bod y fasnach ei hun yn deg,” meddai Ffred Ffransis wedyn.
Ehangu
Mae prif egwyddor y cwmni wedi parhau ers hanner can mlynedd, sef hyrwyddo crefftau o Gymru a nwyddau masnach deg.
Ond dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r egwyddor wedi ehangu rywfaint i gynnwys nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu’n dorfol mewn ffatrïoedd, ond sydd i gyd o werth i Gymry Cymraeg.
Ymhlith y nwyddau hynny mae gemau bwrdd, printiau o’r wyddor, a theganau fel Sali Mali.
Yn fwy diweddar, maen nhw wedi cychwyn cydweithio â siop Spirit of ’58 o’r Bala, gan werthu cynnyrch a nwyddau i gefnogwyr pêl-droed, ynghyd â gwerthu nwyddau Shwldimwl mewn eisteddfodau.
Er bod Ffred a Meinir Ffransis wedi ymddeol yn swyddogol o’r cwmni, maen nhw’n parhau mor frwd ag erioed.
Roedden nhw wedi trosglwyddo’r awenau i’w mab, Hedd Gwynfor, ac i Sioned Elin bedair blynedd yn ôl, a nhw bellach sy’n rheoli’r cwmni.
Er nad oes ganddyn nhw adeilad siop, maen nhw’n gwerthu eu cynnyrch i siopau ac i’r cyhoedd mewn eisteddfodau.
Maen nhw hefyd wedi elwa o fynd â’u cynnyrch i stondinau achlysurol mewn canolfannau siopa ledled Cymru a gwledydd eraill Prydain, ac mae eu presenoldeb ar-lein yn tyfu’n dyddiol.
Effaith Covid-19
Wrth siarad â golwg360, dywed Sioned Elin, cyd-reolwr Cadwyn, fod eu presenoldeb ar-lein a’u gwerthiant ar-lein wedi cynyddu ers Covid-19 “wrth i arferion siopa pobol newid yn aruthrol”.
Er eu bod nhw wedi bod yn gwerthu llawer o nwyddau fel llwyau caru ar y we ers blynyddoedd, mae’r ffaith nad oes ganddyn nhw siop “yn fantais wrth i fwy a mwy o bobol siopa ar-lein”.
“Mae’r eisteddfodau wedi bod yn brysurach hefyd ers Covid,” meddai.
“Ar ôl peidio cael eisteddfodau cenedlaethol am ddwy flynedd, pan ddaethon ni’n ôl, roedd pobol yn heidio ac yn falch bod pawb yn gallu bod ’nôl mewn eisteddfod, ac mae hynny wedi bod yn fanteisiol o ran masnach hefyd.”