Mae tafarnau a bwytai Cymru’n wynebu cyfnod ansicr wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud eu bod “ar y rhestr” o bethau fydd dan ystyriaeth yn adolygiad nesaf gwarchae’r coronafeirws.
Ddoe (dydd Llun, Mehefin 8) oedd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai’n ystyried llacio’r cyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch.
Daeth hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod tri pherson arall wedi marw o’r coronafeirws, gan gymryd y cyfanswm i 1,401; tra bo nifer yr achosion wedi codi 42 i 14,438.
Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, cafodd Mark Drakeford ei holi a oedd Cymru’n ystyried llacio’r rheolau ar gyfer y sector bwyd a diod yn dilyn adroddiadau y gallai Lloegr fod yn barod i agor gerddi cwrw erbyn Mehefin 22.
Ymateb
“Bydd hyn ar y rhestr ynghyd a nifer o bethau eraill,” meddai Mark Drakeford.
“Bydd yn dibynnu ar nifer yr achosion newydd yn parhau i ddisgyn ac os yw hynny’n rhoi lle i ni symud.
“Yna bydd yn rhaid i ni ddewis, yn y ffordd ofalus rydym eisoes yn gweithredu, y mesurau y gallwn eu cynnig i bobol Cymru wrth aros yn saff rhag y risg y gallai’r coronafeirws gyflymu drachefn.”
Dywed y bydd y mater yn cael ei drafod cyn i restr fer o’r “syniadau mwyaf posib” gael ei llunio a’i hystyried yr wythnos nesaf.
Bydd cyhoeddiad nesaf Llywodraeth Cymru yn dod ar Fehefin 19.