Mae’r cyfrif dyddiol diweddaraf yn dangos bod 10 yn rhagor o gleifion coronafeirws wedi marw yng Nghymru.
Cafodd 42 o achosion newydd eu hadrodd, a’u hanner yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru.
Sir Ddinbych a Rhondda Cynon Taf yw’r ddwy sir â’r gyfradd uchaf o achosion drwy Gymru.
Daw’r ffigurau diweddaraf â chyfanswm y marwolaethau a gafodd eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i 1,393. Mae’r rhain yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai a chartrefi gofal yn unig, ac felly mae’r gwir nifer yn uwch, ac yn cael ei amcangyfrif yn wythnosol gan yr ONS ar sail cyfartaleddau marwolaethau tymhorol dros y pum mlynedd diwethaf.