Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi cyfeirio at Natsïaeth wrth ddweud ar Twitter nad oes modd bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr yng Nghymru.

Daw ei sylwadau wrth ategu barn y prif weinidog Mark Drakeford ar Radio 4 yr wythnos hon fod cenedlaetholdeb Cymreig yn egwyddor “asgell dde yn ei hanfod” a bod rhaid i bobol ddewis rhwng y naill a’r llall.

Wrth ei holi, fe wnaeth Nick Robinson ofyn i’r prif weinidog a oedd e wedi ystyried “fod cyfle gwirioneddol i gyflawni’r sosialaeth rydyn ni ei heisiau yng Nghymru drwy fod yn genedlaetholwr?”

Mark Drakeford yn egluro’i safbwynt

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod cenedlaetholdeb “yn gredo asgell dde yn ei hanfod sy’n gweithredu drwy berswadio pobol eu bod nhw yr hyn ydyn nhw am eu bod nhw yn erbyn yr hyn yw rhywun arall”.

“Yn y pen draw, dw i’n credu bod hwnnw’n gredo nad yw’n ddeniadol iawn.”

Wrth drafod datganoli, mae’n dweud mai “blynyddoedd hir o Thatcheriaeth” oedd yn gyfrifol am yr ymdeimlad cryf o genedligrwydd ar y pryd, a bod datganoli wedi cynnig “y gorau o ddau fyd”, sef aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig a bod yn rhan unigol o’r darlun cyfan.

“Dw i’n gefnogwr pybyr o ddatganoli,” meddai.

“Ond dw i hefyd eisiau i Gymru fod yn rhan o’r darlun ehangach lle mae gennym bolisi yswiriant mawr y mae’r Deyrnas Unedig yn ei ddarparu, lle’r ydyn ni’n tynnu ein hadnoddau ynghyd ac yn eu dosbarthu nhw eto i le mae’r angen mwyaf.”

Chris Bryant a Leanne Wood yn ymuno â’r drafodaeth

Wrth ymateb i erthygl ar wefan Nation.Cymru, sy’n cynnwys sylwadau Mark Drakeford, mae Leanne Wood yn egluro’i safbwynt hithau.

“Os ydych chi eisiau i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun, i ddod â dibyniaeth ar eraill i ben, rydych chi’n genedlaetholwr,” meddai.

“Os ydych chi’n chwifio ffedog y bwtsiwr [Jac yr Undeb] ac yn moesymgrymu ac yn crafu i Mrs Windsor, dydych chi ddim yn genedlaetholwr ac felly, fe allwch chi fod yn sosialydd.”

Mewn ymateb arall, mae Cath Read yn dweud nad yw “bod yn genedlaetholwr a bod yn sosialydd yn ddau beth cwbl ar wahân” ac y “gallwch chi fod y ddau, gallwch chi eisiau’r gorau i Gymru heb israddio cenhedloedd eraill, gallwch chi fod yn genedl annibynnol ac yn rhan o undeb fwy fel yr Undeb Ewropeaidd”.

Ond wrth ymateb i’r sylw hwnnw, dywed Chris Bryant, “Aeth yr holl beth sosialaeth genedlaetholgar ddim yn dda iawn yn yr Almaen, naddo?”

Mae’r sylw wedi cael dros 100 o ymatebion erbyn hyn, y rhan fwyaf helaeth yn beirniadu’r sylwadau.

‘Dim diolch’

“Dim diolch,” oedd ymateb Chris Bryant i’r gwahoddiad gan golwg360 am sylw pellach.

“Dw i’n credu ei fod yn egluro’i hun.”