Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn rhybuddio Llywodraeth Prydain fod diffyg hyder yn eu dulliau o fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Mewn llythyr, maen nhw’n rhybuddio Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd, y dylid symud oddi wrth gyfri niferoedd i gynllun profi clir er mwyn atal ail don o achosion.
Mae’r llythyr yn nodi pryferon am gywirdeb ac amseru canlyniadau’r profion sydd wedi’u cynnal.
Y llythyr
“Tra ein bod ni’n cydnabod gwaith y Llywodraeth ac ystod o randdeiliaid, dydyn ni ddim yn credu bod digon o eglurder ar strategaeth brofi gynhwysfawr wedi’i chydlynu er mwyn atal ail don o heintiau ac i sicrhau iechyd y boblogaeth ar y cyfan,” meddai’r Athro Martin Marshall, cadeirydd y Coleg yn ei lythyr.
“Wrth i ni lacio’r gwarchae dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae’n hanfodol fod y proffesiwn a chleifion yn gallu bod yn gwbl hyderus yn y dulliau profi ac olrhain.”
Mae’n galw am ddull sy’n golygu bod y Gwasanaeth Iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal yn y gymuned yn cydweithio, gan gynnwys mewn cartrefi gofal sydd ar “reng flaen” y pandemig.
“Yn absenoldeb strategaeth glir a gydag oedi mewn cynllunio gofal cymdeithasol, mae cleifion wedi’u gadael yn agored i niwed,” meddai wedyn.
“Dw i’n sicr y byddwch chi’n cytuno mai nawr yw’r amser i symud y tu hwnt i ganolbwyntio’n fympwyol ar niferoedd a thargedau, a sicrhau bod ein hanwyliaid mewn lleoliadau sy’n agored i niwed yn cael eu gwarchod yn benodol.”
Mae’n dweud bod y Coleg yn ymwybodol o bryderon gweithwyr gofal iechyd am gywirdeb ac amseru canlyniadau profion.
“Gwyddom fod y pellter mae profion yn teithio i labordai a’r amser aros ar gyfer canlyniadau yn tanseilio hyder yn y broses a’r canlyniadau eu hunain,” meddai.
“Rhaid i unrhyw strategaeth brofi ymrwymo, felly, i adeiladu hyder yn y broses, gan gynnwys ymrwymiad i wella sensitifrwydd a phenodolrwydd y profion.”
Mae’n galw hefyd am roi arweiniad i feddygon teulu ar sut i helpu cleifion i gael profion, ac yn gofyn am “gyfathrebu tryloyw” gan y Llywodraeth.
Ategu’r sylwadau
Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Syr Mark Walport, prif weithredwr Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig a chyn-brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Prydain.
Mae’n dweud bod olrhain yn hollbwysig gydag ail don o achosion yn dal yn bosib.
“Mae’n gyfuniad o bobol yn ofalus iawn am sut maen nhw’n ymddwyn, ynghyd â nodi achosion mor gynnar ac mor drylwyr â phosib drwy brofi, ac yna gweithio allan pwy maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw, a sicrhau eu bod nhw’n hunanynysu,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Wrth i fesurau gael eu cymryd i lacio ar ymbellháu cymdeithasol, mae angen iddyn nhw gael eu cymryd yn ofalus iawn, iawn.
“Does dim amheuaeth fod yna bosibilrwydd o ail don. Dyna’r gwirionedd, heb os.
“Fe fydd yn parhau tra bod yna nifer sylweddol o achosion yn dal yno.”