Mae Ken Rees, cyn-ohebydd ITV Cymru, wedi marw’n 76 oed ar ôl bod yn cwffio canser.

Fe ddaeth y newyddiadurwr, oedd yn enedigol o Gaerdydd, yn wyneb cyfarwydd yn y 1980au a’r 1990au wrth ohebu o ryfeloedd ar draws y byd, gan gynnwys y rheiny yn Beirut, y Malfinas a Rhyfel Cynta’r Gwlff.

Ar ôl cyfnod yn gohebu yng ngogledd Lloegr, cafodd ei ddyrchafu i swyddfa Washington ITV ganol y 1980au i gydweithio â Jon Snow.

Cafodd ei enwi’n ohebydd y flwyddyn gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 1986, a chafodd ei ganmol am “ei allu i ohebu’n effeithiol ac yn llawn cydymdeimlad ar bob math o stori o newyddion caled i drasiedi ddynol bersonol”.

Yn ôl Nigel Hancock, ei gyn-brif olygydd yn ITN, roedd Ken Rees yn “gawr newyddion teledu”.

Dywed John Toker, ei gydweithiwr yn ITN, fod ganddo fe “awch am stori” a’i fod e’n “hynod gystadleuol yn ei ddull, agwedd oedd yn ei wneud yn annwyl ymhlith ei olygyddion  chynhyrchwyr newyddion yn ITN, a’i wrthwynebwyr yn y BBC a sefydliadau newyddion Americanaidd yn ei ofni”.

Mae’n gadael gwraig, Lynne, mab Christian, merch Samantha a thri o wyrion.