Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi rhoi bonclust eiriol i S4C am wneud iddo “wingo a rhegi” wrth wylio arlwy’r Sianel Gymraeg.
Yn gyn-Aelod Seneddol tros Geredigion ac yn gyn-Aelod Cynulliad hefyd, bellach mae Cynog Dafis yn un o geffylau blaen y mudiad Dyfodol I’r Iaith sy’n ymgyrchu tros barhad y Gymraeg.
Ac mewn llythyr i gylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Cynog Dafis wedi bod yn rhoi ei farn ar “iaith wachul dramâu nos Sul S4C”.
“Mae benthyca geiriau ac ymadroddion o’r Saesneg yn hen beth wrth gwrs ac at ei gilydd wedi cyfoethogi’n hiaith yn ddirfawr,” meddai Cynog Dafis yn ei lythyr.
“Ond mae’r hyn sy’n digwydd yn awr dan nawdd ein sianel genedlaethol yn beth arall: talpiau mawr o Saesneg; plentyneiddio gramadeg, idiom a geirfa; switsio (sylwch ar y gair) parhaus rhwng y ddwy iaith o fewn brawddegau ac yn y blaen. O gofio am yr ymgyrch dros sefydlu sianel Gymraeg, a yw’r gair “brad” yn rhy gryf?”
“Beth yw’r pris y mae’r Gymraeg yn ei thalu?”
Ychwanega Cynog Dafis: “Beth sydd ym meddwl S4C tybed? Adlewyrchu Cymraeg llafar heddiw? Ymdrech at realaeth gymdeithasol (“Onid ydyn ni’n byw mewn cymdeithas ddwyieithog”)?
“Neu ymdrech i estyn allan at gynulleidfa ehangach y mae eu Cymraeg yn gyfyng?
“Os felly, a oes unrhyw un yn uchel-leoedd y sianel wedi gofyn, beth yw’r pris y mae’r Gymraeg yn ei thalu wrth i’r math yma o feddylfryd dryslyd gael ei hyrwyddo?
“Ac mi fentraf, am bob un gwyliwr newydd y mae’r polisi yma’n ei ennill, bod llawer yn cael eu colli.
“Mae’n well gen i, yn un, yn hytrach na gwingo, tyngu a rhegi am awr ar nos Sul yng nghwmni 35 Diwrnod, ddilyn Medici ar Netflix. Eidalwyr o’r 15fed ganrif yw’r cymeriadau ond maen nhw’n siarad Saesneg rugl ddi-fai (= first-rate) ac yn gwbl realistig.”
Ymateb S4C
Mae S4C wedi ymateb.
“Drama yw hon am griw o bobl ifanc sydd yn siarad Cymraeg yn naturiol gyda’i gilydd,” meddai llefarydd.
“Rydym wastad yn ceisio sicrhau amrywiaeth o fathau o ddramâu ar y sianel gyda’r bwriad bod modd i bawb fwynhau’r arlwy yn ei gyfanrwydd, beth bynnag fo lefel eu gallu yn yr iaith.”