Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r seiciatrydd clinigol Dr Dafydd Alun Jones fu farw wythnos ddiwethaf yn 89 oed.

Cafodd ei ddisgrifio gan Clive Wolfendale, Prif Weithredwr yr elusen CAIS fel “Cymro i’r carn, gwr balch o Sir Fôn ac academydd o’r radd flaenaf.”

Eglurodd Clive Wolfendale: “Yn rhyfedd iawn dechreuodd hyfforddi fel gwyddonydd niwclear yn wreiddiol, ond ar ôl diflasu ar hynny trodd at feddygaeth gan ymroi ei fywyd yn llwyr i helpu eraill.”

Graddiodd Dr Dafydd Alun Jones o ysgol feddygol Prifysgol Lerpwl cyn mynd ymlaen i astudio cyrsiau ôl raddedig a gweithio fel seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych rhwng 1964 – 1995.

Tra’n gweithio yno sefydlodd unedau arbenigol ar gyfer trin pobol oedd yn gaeth i alcohol a chyffuriau, gan hefyd sefydlu’r elusen CAIS ym 1976.

Bu’n gadeirydd yr elusen sy’n rhoi cymorth i gyn filwyr, pobol sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau, a phobol sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl am dros 40 mlynedd.

“Bywyd rhyfeddol”

Ar ôl i Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych gau, sicrhaodd Dafydd Alun Jones fyddai’r byrddau iechyd yng ngogledd Cymru yn ail-ddarparu’r gwasanaethau hyn – dyma arweiniodd at sefydlu uned driniaeth Hafan Wen CAIS er mwyn cynnig cefnogaeth breswyl i gleifion.

“Roedd ei waith gyda chyn-filwyr a phobol â salwch PTSD yn arloesol,” meddai Clive Wolfendale.

“Drwy gydol ei fywyd roedd mewn cyswllt cyson â chyn-gleientiaid, milwyr a dioddefwyr o bob math – ac yno i gynnig cefnogaeth iddynt hyd at y diwedd.

“Gweithiodd yn ddiflino i sicrhau’r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru heddiw.

“Cafodd fywyd rhyfeddol – yn ogystal â’i waith meddygol bu’n ymgeisydd gwleidyddol a hyd yn oed wedi hyfforddi i fod yn beilot. Roedd hi bob amser yn bleser i gydweithio ag ef.”

“Bellach mae’r elusen yn cyflogi 250 o bobol ac yn parhau i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i bobol yng Nghymru. Mae ein diolch i Dr Dafydd Alun Jones yn fawr.”