Mae’r cwmni coffi Starbucks wedi cyhoeddi eu bod am ail-agor 150 o safleoedd ar draws y Deyrnas Unedig o ddydd Iau (Mai 14) ymlaen.
Dywed Starbucks eu bod yn agor 15% o’u siopau yn y Deyrnas Unedig fel rhan gyntaf eu cynllun i ail-agor, sy’n canolbwynio’n bennaf ar siopau gyrru drwodd.
Caeodd Starbucks eu holl safleoedd fis Mawrth wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi’r cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.
Dywed y cwmni eu bod wedi bod yn “dysgu, profi a mireinio safonau gweithredol bob dydd,” a bydd eu cynllun ail-agor yn rhoi pwyslais ar iechyd a diogelwch eu gweithwyr a’u cwsmeriaid.
Daw’r cynllun ail-agor hwn wedi i gwmnïau bwyd megis Burger King a KFC, agor safleoedd gyrru drwodd.
Mae Starbucks eisoes wedi ail-agor rhai safleoedd mewn gwledydd megis yr Unol Daleithiau a Tsieina.
Dywed eu bod wedi “dysgu” o’u newidiadau gweithredol yn Tsieina – lle mae 90% o’u siopau bellach yn agored – a’r Unol Daleithiau wrth ail-agor eu safleoedd ym Mhrydain.
Bydd rhai o’r mesurau diogelwch yn cynnwys golchi dwylo am 20 eiliad yn gyson, ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr, yn ogystal â thaliadau digyswllt yn unig.
Bydd y fwydlen yn cynnwys detholiad o ddiodydd oer, gyda rhai bwydydd ar gael.
Mae gweithwyr wedi cael eu talu drwy gydol yr argyfwng gyda’r cwmni’n dweud na fyddan nhw “yn derbyn unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth” yn ystod y pandemig coronafeirws.