Mae dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer achos llys yn erbyn dynes 29 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio warden eglwys a cheisio llofruddio tri o bobl eraill.
Mae Zara Anne Radcliffe wedi ei chyhuddo o drywanu John Rees, 88 oed, yn siop Co-op ym Mhenygraig yn y Rhondda ddydd Mawrth diwethaf (Mai 5).
Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson arall, Andrew Price, Gaynor Saurin a Lisa Way.
Fe ymddangosodd Zara Anne Radcliffe drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Llun, Mai 11).
Mae disgwyl i’r achos yn ei herbyn gael ei gynnal yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar Hydref 19.
Cafodd Zara Anne Radcliffe, o Stryd Wyndham, yn Porth, ei chadw yn y ddalfa.
Roedd John Rees yn byw ym mhentref Trealaw gyda’i wraig Eunice ac yn warden yn yr eglwys yno.