Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu hestyn am dair wythnos arall yng Nghymru – gyda rhai mân addasiadau.

Dywed ei bod yn dal yn rhy fuan i godi’r gofynion a’r cyfyngiadau yn sylweddol, er bod penllanw cyntaf yr haint wedi mynd heibio.

Dyma’r ail dro i’r cyfyngiadau – sy’n cael eu hadolygu bob tair wythnos – gael eu hestyn ers eu cyflwyno chwe wythnos yn ôl.

Mae’r newidiadau a ddaw i rym ddydd Llun yn cynnwys:

  • Caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond gan aros yn eu hardal leol. Mae hynny’n golygu y dylai unrhyw ymarfer ddechrau a gorffen yn y cartref ac na ddylid teithio pellter sylweddol o’r cartref.
  • Galluogi awdurdodau lleol i ddechrau acynllunio sut y gellir agor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu yn ddiogel.
  • Caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r rheol pellter corfforol.

“Fel cenedl rydym wedi cyd-dynnu i fynd i’r afael â’r feirws hwn a hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am yr ymdrech hon ar y cyd,” meddai Mark Drakeford.

Gostyngiad

“Gyda’n gilydd rydym yn helpu i leihau cyflymder a lledaeniad y feirws. Y canlyniad yw gostyngiad yn nifer yr achosion newydd a gostyngiad yn y gyfradd atgynhyrchu.”

Esboniodd fod y gyfradd atgynhyrchu – y gyfradd ‘R’ – yn 0.8 ar hyn o bryd. Gallai hyn olygu hyd at 800 yn rhagor o farwolaethau yn y tri mis nesaf.

Pe bai’r gyfradd yn codi, fodd bynnag, i 1.1, gallai hynny arwain at 7,200 o farwolaethau dros yr un cyfnod.

“Mae’r feirws yn dal yn fygythiad difrifol iawn i ni i gyd ac ni allwn laesu dwylo mewn unrhyw ffordd,” meddai Mark Drakeford. “O’r herwydd, bydd y rhan fwyaf o’r rheoliadau aros gartref yn parhau mewn grym yng Nghymru.”