Mae disgwyl i ragor o wasanaethau trên ailgychwyn yn fuan fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.
Roedd cynnydd graddol wedi cael ei drefnu o 18 Mai ymlaen, gyda rhai ardaloedd yn gweld gwasanaethau tebyg i’r hyn a geir a ddydd Sadwrn – ond mae lle i gredu bellach y gall y newidiadau gychwyn mor fuan â dydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain eu bod yn archwilio amrywiol ddewisiadau ar adfer trafnidiaeth yn brydlon pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Mae trafodaethau wedi bod rhwng arweinwyr undebau rheilffordd a’r llywodraeth ynghylch diogelwch gweithwyr a theithwyr pan fydd mwy o drenau’n rhedeg.
Dywedodd Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth (RMT), fod pryderon mawr am ddiogelwch.
“Wnaiff yr RMT ddim cyfaddawdu ar iechyd, diogelwch a bywoliaeth ein haeldoau a fyddwn ni ddim yn cytuno i ddim byd sy’n methu â rhoi diogelwch staff a theithwyr yn gyntaf,” meddai.
“Os bydd hynny’n golygu cynghori’n haelodau i beidio â gweithio o dan amgylchiadau sy’n anniogel ac yn torri canllawiau’r llywodraeth ei hun, yna dyna’n union fyddwn ni’n ei wneud.”
Meddai Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol undeb y gyrwyr trên Aslef:
“Mae arnom eisiau helpu Prydain i ddychwelyd ar yr hyn oedd yn arferol cyn y pandemig, ar rydym wedi cytuno gyda’r Adran Drafnidiaeth y byddwn ni’n cynyddu’r nifer o wasanaethau lle mae’n ddiogel i deithwyr a staff.”