Mae dyn o Eifionydd yn rhedeg saith marathon mewn saith diwrnod i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd Finlay Calderwood o Bencaenewydd yn rhedeg marathon y dydd – 14.3 o lapiau o amgylch cwrs 3km i fod yn fanwl gywir.

Nod ei gamp yw codi arian i holl fyrddau iechyd Cymru er mwyn ariannu’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnyn nhw yn ystod y pandemig.

Mae Finlay, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ar ei bumed diwrnod o’i ymgyrch  heddiw (Mai 5), ac yn cofnodi ei daith yn ddyddiol ar facebook, gan gynnwys y boen mae’n ei ddioddef yn ei ben glin a’r gwartheg sydd yn ei ffordd ar ei daith!

£500 oedd ei darged pan gychwynnodd Finlay, ond mae wedi pasio’r targed yna ac wedi codi £2500 gyda thair marathon ar ôl i’w rhedeg.

‘Diolch’

“Carem ddiolch yn fawr i Finlay am ei ymdrechion i godi arian i’r ymgyrch drwy Gymru gyfan,” meddai Deborah Longman, pennaeth Codi Arian Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

“Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng elusennau’r Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru.

“Rydyn ni wedi ein llorio gan haelioni a charedigrwydd ein cymunedau lleol a’n busnesau lleol sydd am ein helpu ni.

“Mae’r arian sydd yn cael ei godi yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion ac i’r staff.”