Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud bod Jennie Fomby, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, wedi ymddiswyddo “trwy gydsyniad”.

Cyhoeddodd Jennie Formby, oedd yn un o gynghreiriad Jeremy Corbyn, ddydd Llun (Mai 4) ei bod hi’n ymddiswyddo.

Dywed Syr Keir Starmer ei fod yn “dymuno’r gorau iddi.”

“Mae angen i ni symud ymlaen fel plaid, a rhoi tîm newydd yn ei le ar gyfer y dyfodol,” meddai ar raglen Today ar Radio 4.

Mae Jennie Formby yn dweud mai nawr oedd yr “amser iawn” i ymddiswyddo wrth i’r arweinydd newydd gael gafael ar y blaid.

Daw ei hymddiswyddiad wrth i’r blaid ymchwilio i ddogfen wrth-semitiaeth ddadleuol gafodd ei rhyddhau i’r cyfryngau.

Mae’r ddogfen yn cyfeirio at “garfannau gwrthwynebus” i Jeremy Corbyn.

Mae’r Blaid Lafur wedi gorfod amddiffyn eu hymdriniaeth wrth warchod data yn ogystal â gweithio gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch y ddogfen gafodd ei rhyddhau i’r cyfryngau, gyda rhai o’r bobol gafodd eu henwi yn bygwth heriau cyfreithiol.