Mae Angela Burns yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru “stopio cwrso’r penawdau” a rhoi’r gorau i “ddull Cymreig” o fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Daw sylwadau llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl i adroddiad ar brofi ac olrhain gael ei ryddhau i’r wasg.

Yn ôl BBC Cymru, mae’r adroddiad yn dweud y byddai angen cynnal 30,000 o brofion bob dydd pe bai pawb â symptomau’n cael prawf.

Mae profi ar y fath raddfa’n rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau’r gwarchae.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cynllun “drafft” yw hyn ac fe fyddan nhw’n ceisio cadarnhau’r manylion yr wythnos hon.

Maen nhw’n dweud y byddai angen 94 o dimau ledled y wlad, gyda hyd at 1,600 o weithwyr yn cynnal profion, ond y byddai digon o bobol yn cael profion pe bai pawb â symptomau’n cael prawf.

Dim ond 2,000 o brofion dyddiol sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

 

Ymateb

 

Mae Angela Burns wedi codi amheuon am y cynllun, gan dynnu sylw at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gefnu ar dargedau profion.

 

“Roedd Llywodraeth Cymru wedi dileu eu targedau profi pan sylweddolon nhw nad oedden nhw’n gallu eu bwrw nhw, ac maen nhw’n swil ynghylch ymuno ag ap olrhain y Deyrnas Unedig,” meddai.

 

“Sut mae Cymru fod i allu dod allan o’r cyfyngiadau pan fo angen i Lywodraeth Cymru fwrw’r targed profi enfawr yma?

 

“Mae angen iddyn nhw roi’r gorau i gwrso penawdau a chreu dull Cymreig penodol, a bwrw iddi gyda’n tywys ni drwy Covid-19 ac allan ohono.”