Mae disgwyl i Brydain a’r Unol Daleithiau ddechrau trafodaethau ar gytundeb masnach rydd “uchelgeisiol.”
Bydd yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Liz Truss a Robert Lighthizer, cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, yn dechrau’r trafodaethau mewn cynhadledd fideo heddiw (dydd Mawrth, Mai 5).
Bydd y rownd gyntaf o drafodaethau yn parhau am bythefnos, gydag oddeutu 100 o drafodwyr ar y naill ochr a’r llall yn cymryd rhan.
Yna, bydd rowndiau pellach yn cael eu cynnal tua phob chwe wythnos.
O blaid ac yn erbyn
Mae’r prif weinidog Boris Johnson wedi dadlau ers tro bod cytundeb masnach rydd gyda’r Unol Daleithiau yn un o fanteision gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan honni y byddai’n hwb mawr i’r economi.
Fodd bynnag, mae eraill wedi rhybuddio y byddai cytundeb gyda’r Unol Daleithiau yn golygu derbyn safonau bwyd ac amgylcheddol is, yn ogystal ag agor y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fyny i gwmnïau Americanaidd – rhywbeth mae’r Llywodraeth yn ei wadu.
Cyn i’r rownd gyntaf o drafodaethau gael eu cynnal, dywed Liz Truss y bydd cytundeb yn helpu i adfer economïau’r ddwy wlad yn dilyn argyfwng y coronafeirws.
“Rydym eisiau cytundeb uchelgeisiol sy’n creu cyfleoedd newydd i fusnesau, yn denu mwy o fuddsoddiadau a chreu swyddi gwell i bobl ar draws y wlad,” meddai.