Mae 14 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan godi cyfanswm y marwolaethau i 997, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ogystal, mae 195 yn rhagor o bobl wedi profi’n bositif am y coronafeirws, gan ddod â chyfanswm Cymru i 10,524.
Serch hynny, mae nifer y derbyniadau coronafeirws i ysbytai yng Nghymru yn gostwng, meddai’r Prif Weinidog.
Cyngor ar fasgiau
Dywedodd hefyd fod Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, yn bwriadu “ffurfioli” ei gyngor i Lywodraeth Cymru o ran a ddylai pobl wisgo masgiau anghlinigol dros eu hwynebau, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
“Nid ydym yn sôn am y math o fasgiau sy’n cael eu gwisgo mewn ysbytai,” meddai Mark Drakeford.
“Rydym yn trafod gorchuddion wyneb anghlinigol, dyna’r ymadrodd mae Llywodraeth yr Alban wedi ei ddefnyddio yn ei ganllawiau.”
Cyngor i’r henoed
Ar ôl i Gyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol GIG Lloegr, yr Athro Stephen Powis, ddweud ddydd Gwener y bydd swyddogion yn astudio a fydd yr henoed yn gorfod parhau â mesurau llymach pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio, gofynnwyd i Mr Drakeford am hynny.
Dywedodd fod tystiolaeth yn dangos bod y firws yn cael mwy o effaith ar bobl hŷn ac felly ei bod hi’n “gwneud synnwyr i bobl yn y grŵp oedran hwnnw gymryd mwy o ofal”.
Dim dryswch o ran ysgolion
Gwadodd y Prif Weinidog ei fod wedi peri dryswch drwy ddweud ddydd Sul y gallai ysgolion yng Nghymru ailagor ym mis Mehefin. Dywedodd ei fod wedi dweud yn glir y byddai’n cymryd tair wythnos i ailagor o’r adeg y penderfynir bod hynny’n ddiogel i athrawon a disgyblion.
Ond dywedodd fod y wyddoniaeth yn dal yn “llai clir” o ran y rôl y mae plant yn ei chwarae o ran lledaeniad y firws, a bod gwaith yn parhau ar draws y byd i ddeall mwy am hyn.
Problemau data gyda’r ap tracio?
Hefyd, dywedodd y Prif Weinidog fod problem rhannu data gydag ap tracio cyswllt y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n cael ei dreialu ar Ynys Wyth wythnos yma.
“Mae yna broblemau i’w datrys, a dyna pam y mae Ynys Wyth yn cael ei defnyddio fel arbrawf, yn benodol problemau sy’n ymwneud â data, data personol, a sut y gall y data hwnnw hael ei rannu rhwng gwahanol systemau iechyd y Deyrnas Unedig,” meddai.
Cam nesaf ‘ddim yn wahanol iawn’
Dywedodd Mark Drakeford mai ystyried lleihau’r cyfyngiadau fyddai “prif ffocws” Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, ond rhybuddiodd na fyddai’r cam nesaf yn edrych yn wahanol iawn:
“Dydw i ddim am gynnig ffug-optimistiaeth i bobl ynglŷn â pha mor gyflym y bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth. Fy marn ers meitin yw na fydd y camau cynnar o symud allan o’r cyfnod cloi yn edrych yn wahanol iawn i’r cloi ei hun.”