Mae’r “amser wedi dod” i gael incwm sylfaenol cyffredinol, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Wrth siarad yn sesiwn friffio dyddiol Llywodraeth yr Alban ar y coronafeirws, dywed y Prif Weinidog ei bod yn bwriadu cynnal “trafodaethau adeiladol” gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater.

Gyda’r cynllun, byddai pobl yn derbyn taliad cyffredinol gan y Llywodraeth, gyda rhai budd-daliadau’n cael eu sgrapio.

“Mae’r feirws a’i oblygiadau economaidd wedi fy ngwneud i’n llawer iawn mwy sicr bod yr amser wedi dod i gyflwyno’r cynllun hwn.”

Byddai’n rhaid i Lywodraeth yr Alban gael mwy o reolaeth dros drethi a nawdd cymdeithasol er mwyn gallu cyflawni cynllun o’r fath, ond dywedodd y byddai hynny’n fater i’r drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd y byddai’n hoffi cynnal y trafodaethau hynny’n “gymharol gyflym” ar ôl diwedd y pandemig.

Mae’r felin drafod Reform Scotland wedi creu cynnig manwl am gynllun incwm sylfaenol cyffredinol. Byddai’n cynnwys taliad blynyddol o £5,200 i oedolion a £2,600 i bobl o dan 16 mlwydd oed.

Byddai’r cynllun yn costio £20 biliwn y flwyddyn, gyda gwahanol fesurau’n gallu codi £18.34 biliwn i ariannu’r cynllun.