Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn galw ar wledydd i “gydweithio” wrth ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Mewn uwch-gynhadledd ar-lein, sy’n cael ei chynnal gan y Deyrnas Unedig ynghyd ag wyth gwlad a sefydliadau eraill, mae disgwyl iddo annog gwledydd i rannu eu harbenigedd er mwyn trechu’r feirws yn gynt.

Bydd yn dweud wrth y gynhadledd, sy’n gobeithio codi £6.6 biliwn, bod y ras i ddatblygu brechlyn “ddim yn gystadleuaeth rhwng gwledydd.”

Mae 246,000 o bobl wedi marw o’r coronafeirws ledled y byd, yn ôl Prifysgol John Hopkins, gyda 28,446 o bobl wedi marw yn y Deyrnas Unedig.

Mae’n debyg na fydd Boris Johnson yn cyhoeddi sut mae’n disgwyl i’r Deyrnas Unedig adael y lockdown tan ddydd Sul, tri diwrnod ar ôl y dyddiad pan fydd y Llywodraeth yn adolygu’r cyfyngiadau presennol.

Mae gweinidogion wedi bod dan bwysau i egluro eu strategaeth ond heb wneud hyd yma – gan rybuddio y byddai gwneud hynny yn tanseilio’r neges i aros gartref.

Ddydd Sul (Mai 3) dywedodd Michael Gove y bydd rhai mesurau ymbellhau cymdeithasol yn aros mewn grym tan fod brechlyn wedi cael ei ddatblygu, ond y byddai’r Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd at fywyd “mor agos ag sy’n bosib at normalrwydd.”

Datgelodd Michael Gove hefyd fod nifer y profion coronafeirws gafodd eu cynnal yn y 24 awr ddiwethaf yn 76,496 – sy’n is na tharged y Llywodraeth o 100,000.