Mae Hywel Williams, aelod seneddol Plaid Cymru yn Arfon, yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o “ddiystyru” Caergybi wrth gyhoeddi pecyn cymorth i borthladdoedd yn sgil y coronafeirws.
Caergybi yw’r ail borthladd prysuraf yng ngwledydd Prydain ond wrth gyhoeddi £17m i ddiogelu llwybrau fferi “hanfodol” ddydd Gwener (Ebrill 24), cafodd ei eithrio o’r pecyn.
Mewn sesiwn fideo gyda’r Canghellor Rishi Sunak, fe wnaeth Hywel Williams gyhuddo Llywodraeth Prydain o aros tan bod y porthladd yn methu cyn eu bod nhw’n barod i gamu i mewn.
‘Hanfodol i’r economi’
“Ddydd Gwener, cyhoeddodd y llywodraeth becyn cefnogaeth i wasanaethau fferi rhwng Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr,” meddai Hywel Williams.
“Anwybyddwyd y llwybr o Gaergybi i Ddulyn.
“Mae llawer iawn o draffig Caergybi – Dulyn mewn gwirionedd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, gan gynnwys cludo nwyddau sy’n sensitif i amser fel bwyd a meddyginiaeth.
“Mae hefyd yn hanfodol i economi gogledd orllewin Cymru.
“A yw’r Canghellor yn aros i Gaergybi, ail borthladd fferi prysuraf y Deyrnas Unedig, fethu cyn camu i mewn?
“Mae’r pandemig coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar wasanaethau fferi a’r porthladdoedd sy’n eu cynnal yn y Deyrnas Unedig, ac nid yw Caergybi yn eithriad.
“Mae o bwysigrwydd strategol i economi gogledd Cymru.
“Mae’n anghredadwy nad yw porthladd Caergybi wedi’i gynnwys ym mhecyn cymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac rwy’n galw ar frys ar y llywodraeth i unioni’r anghyfiawnder hwn.”