Mae’n bosib mai Brasil fydd y wlad nesaf i ddioddef o’r coronafeirws ar raddfa fawr wrth i’r Arlywydd Jair Bolsonaro fynnu mai dim ond “rhyw ychydig o ffliw” ydi o.

Yn ôl Jair Bolsonaro, does dim angen i’w wlad ddilyn cyfyngiadau llym fel y rhai sydd wedi arafu lledaeniad y coronafeirws yn Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Erbyn hyn, mae rhai gwledydd Ewropeaidd a nifer o daleithiau’r Unol Daleithiau wedi llacio eu gafael ar symudiadau pobol.

Ond mae yna arwyddion fod yr haint yn dwysáu ym Mrasil gydag ysbytai o dan bwysau, ac mae’n dod i’r amlwg fod nifer cynyddol yn marw adref.

Hyd yn hyn, mae Brasil wedi cyhoeddi tua 4,500 o farwolaethau a bron i 67,000 o achosion wedi eu cadarnhau.

Dwywaith y nifer yn marw yn eu cartrefi

Ond mae rhai gwyddonwyr yn dweud y gallai misoedd y gaeaf waethygu’r salwch eleni.

Mae swyddogion yn Sao Paulo – y ddinas fwyaf yn Ne America sy’n ardal boblog, gyfyng dros ben gyda dros 21 miliwn o drigolion, a llawer yn byw mewn tlodi – wedi cyhoeddi 236 o dystysgrifau marwolaeth i bobol sydd wedi marw yn eu cartrefi dros y pythefnos diwethaf.

Mae hyn yn ddwywaith y nifer cyn y pandemig.

“Mae gennym ni yr holl gyflyrau yma fydd yn galluogi’r pandemig i ddatblygu’n llawer mwy difrifol,” meddai Paulo Brandao, feirolegydd ym Mhrifysgol Sao Paulo.

Ond, mae’r Arlywydd Jair Bolsonaro wedi wfftio difrifoldeb y coronafeirws, gan ddweud bod angen i bobol barhau â’u bywydau er mwyn osgoi cwymp economaidd.

Ganol mis Ebrill, cafodd ei Weinidog Iechyd, oedd yn boblogaidd iawn, ei ddiswyddo o ganlyniad i anghydfod am sut i reoli’r feirws.

Cafodd ei olynu gan unigolyn sydd o blaid agor yr economi eto.