Mae chwe llong anferth wedi ymddangos ar arfordir Cymru ger Abertawe, ac wedi bod aros yno ers y penwythnos.
Mae’r chwe llong yn aros i gael eu derbyn i borthladd Port Talbot ac wedi angori yn Sianel Bryste ar arfordir Gŵyr.
Mae’n debyg mai tanc olew yw un a’r gweddill yn longau cargo. Y llong fwyaf trawiadol oedd yr un gyntaf i ymddangos.
Mae’r ‘Mediterranean Highway’ sydd yn mesur 200 metr o hyd wedi ei chofrestru ym Mhanama ac yn pwyso 55,000 o dunelli.
Y pum llong arall yw
- Whitsar o Brydain
- Golden Eagle o Ynysoedd Marshall
- Sagar Samrat o Singapore
- Bulk Endurance o Banama
- SSI Excellent o Ynysoedd Marshall
Dim unman i fynd
Adroddodd y ‘Business Insider’ ddydd Llun, Ebrill 20, fod yna swm anferthol o olew amrwd yn cael ei storio oddi ar arfordiroedd mewn llongau masnach wrth i fasnachwyr geisio dod o hyd i rywle i storio eu cynnyrch wedi cwymp anferthol yn y galw oherwydd y coronafeirws.
Ddydd Llun (Ebrill 20), chwalwyd prisiau olew yr Unol Daleithiau, gan fynd yn is na sero am y tro cyntaf, sydd yn golygu fod cynhyrchwyr yn talu prynwyr i’w gymryd oddi arnyn nhw.
Dyw hi ddim yn glir am ba mor hir fydd y llongau, sydd yn amrywio o 75 i 229 o fetrau, wedi eu hangori yn y sianel.